Plât bychan caled sy'n tyfu allan o groen anifail er mwyn ei amddiffyn yw cen (Groeg λεπίς lepis, Lladin squama). Mae cennau yn eitha cyffredin ac wedi esblygu lawer gwaith trwy esblygiad cydgyfeiriol, gyda strwythurau a ffwythiannau amrywiol. Maent i'w cael ar bysgod, ymlysgiaid, adar, arthropodau a rhai mamaliaid, fel y pangolin. 

Cen
Mathseta Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Cennau gwrymiog ar neidr golwbraidd

Mae cennau yn gyffredinol yn cael eu hystyried yn rhan o system bilynnol organeb. Mae amryw wahanol fathau o gennau yn ôl siâp a dosbarth anifail.