Cerddoriaeth metel trwm

math o gerddoriaeth roc

Math o gerddoriaeth roc yw metel trwm. Gyda gwreiddiau mewn roc y felan, roc seicedelig a roc asid, datblygodd bandiau metel trwm sain trwchus, mawr, wedi'i nodweddu gan ystumiant (Saesneg: distortion), unawdau gitâr estynedig, curiadau grymus, a sain uchel. Weithiau mae'r geiriau a'r perfformiadau'n gysylltiedig ag ymddygiad ymosodol a 'machismo'.

Gwraidd a dylanwadau

golygu

Mae bandiau cynnar efo elfennau metel trwm yn cynnwys Steppenwolf, Led Zeppelin, a'r Rolling Stones.

Dylanwadwyd metel trwm gan cerddoriaeth blws. Cafodd cerddoriaeth hwyrach ei dylanwadu gan cerddoriaeth glasurol.

Band metel trwm cynnar enwoca yw Black Sabbath.

Un o'r bandiau Cymraeg cyntaf i chwarae cerddoriaeth fetel trwm oedd Budgie.[1] Mae bandiau metel trwm cyfoes o Gymru yn cynnwys Persian Risk a Bullet for My Valentine.

Ton Metel Trwm Prydeinig Newydd

golygu

Mudiad o'r 1970au hwyr oedd y Ton Metel Trwm Prydeinig Newydd (New Wave of British Heavy Metal neu NWOBHM yn Saesneg).

Nu Metal

golygu

Math o gerddoriaeth metel trwm sy'n codi yn y 1990au oedd nu metal (o new metal, yn golygu metel newydd). Mae bandiau nu metal yn cynnwys Slipknot a Korn.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Sarah Hill (1 January 2007). Blerwytirhwng?: The Place of Welsh Pop Music. Ashgate Publishing, Ltd. t. 72. ISBN 978-0-7546-5898-6.