Dyffryn dwfn ag ochrau serth a dorrir gan afon drwy garreg gwydn, fel arfer creigwely, yw ceunant neu hafn. Maent yn ffurfio gan amlaf mewn blaenau afonydd, lle mae nentydd cryf a gwyllt yn torri'r dyffryn yn gyflym.[1][2]

Ceunant
Y Ceunant Mawr yn Arizona, Unol Daleithiau America, yn y fan mae Afon Fechan Colorado yn cydlifo ag Afon Colorado.
Mathfluvial landform, dyffryn Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Ffurfia ceunentydd enfawr mewn crindiroedd a lled-grindiroedd gan ffrydiau cyflym, gyda nerth o lawogydd neu eira toddedig yn y rhanbarthau i fyny'r afon, sydd yn erydu pantiau culion yng nghramen y Ddaear. Mae ochrau'r ceunentydd yn serth a chonglog gan nad oes glawogydd cyffredin na thirddraeniad llethrog i dreulio'r carreg.

Ceir hefyd ceunentydd tanforol a ffurfir naill ai pan boddir gwely'r afon a'r tir o'i amgylch, neu gan gerhyntau tyrfol yn nyfnderoedd y dŵr. Cafodd y ceunentydd tanforol mwyaf—megis Ceunant Zhemchug ym Môr Bering a Cheunant Monterey ger arfordir Califfornia—eu torri yng nghramen y Ddaear yn epoc y Pleistosen (2.6 miliwn–11,700 o flynyddoedd yn ôl) pan oedd lefel y môr yn is o lawer. Mae'n debyg i gerhyntau y dyfroedd dyfnion, sydd yn cynnwys llawer o waddodion, a thirlithriadau tanforol o ddyddodion rhydd wthio'r ceunentydd hyn yn ddyfnach ar hyd lethrau cyfandirol ac ar draws yr ysgafellau cyfandirol.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Canyon (geology). Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 8 Chwefror 2023.
  2. (Saesneg) "Canyon", World of Earth Science. Adalwyd ar wefan Encyclopedia.com ar 8 Chwefror 2023.