Charles Edwin Spooner

Peiriannydd oedd Charles Edwin Spooner (22 Tachwedd 185314 Mai 1908) [1], yn Hafod Tanycraig, Cymru[2]. Oedd o'n drydydd mab Charles Easton Spooner.

Charles Edwin Spooner
Ganwyd22 Tachwedd 1853 Edit this on Wikidata
Bu farw14 Mai 1909 Edit this on Wikidata
Kuala Lumpur Edit this on Wikidata
Galwedigaethpeiriannydd sifil Edit this on Wikidata
TadCharles Easton Spooner Edit this on Wikidata
PriodMartha Brownrigg Chartres Edit this on Wikidata

Cwblhaodd addysg fel peiriannydd yng ]Ngholeg y Drindod, Dulyn ym 1874[3], ac wedyn gweithiodd o dan reolaith ei dad yng ngogledd Cymru.

Dechreuodd waith yn Adran Arolygu Ceilón ar 6 Medi 1876, yn Arolygwr Talaith y Gogledd, ac arolygodd Penrhyn Jaffnapatam ac ardal Patabilapullai. Trosglwyddwyd i Adran Gwaith Cyhoeddus ar 24 Awst 1877 ac adeiladodd ffordd trwy Bwlch Bulototta a Ffordd Laxapathy ym Maskeliya. Daeth o'n brif swyddog i'r ardaloedd Dikoya, Bojawantalawa, Maskeliya ac Ambagamawa yn Dhalaith Canolog. Symudodd i Wladfeydd y Culfor ac roedd yn Brif Beirianydd i Selangor rhwng 1892 a 1901 a threfnodd rwydwaith trydan Kuala Lumpur cyn iddo ddod yn Rheolwr Cyffredinol i reilffordd y Daleithiau Ffederal Maleia ym 1901.[4]

Bu farw Spooner yn Kuala Lumpur yn 1909.[3]

Roedd o'n gerddor ac arlunydd da.[4]

Cyfeiriadau golygu