Bardd, ysgrifwr, a golygydd o Ffrainc oedd Charles Péguy (7 Ionawr 18735 Medi 1914) a ddefnyddiai ei ysgrifbin i fynegi ei athroniaeth Gristnogol a'i sosialaeth wladgarol.

Charles Péguy
FfugenwPierre Deloire, Pierre Baudouin Edit this on Wikidata
GanwydCharles-Pierre Péguy Edit this on Wikidata
7 Ionawr 1873 Edit this on Wikidata
Orléans Edit this on Wikidata
Bu farw5 Medi 1914 Edit this on Wikidata
Le Plessis-l'Évêque Edit this on Wikidata
DinasyddiaethFfrainc Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethllenor, bardd, awdur ysgrifau, newyddiadurwr, athronydd, dramodydd, person milwrol, beirniad llenyddol Edit this on Wikidata
Mudiadathroniaeth wleidyddol, personalism Edit this on Wikidata
PriodCharlotte Péguy Edit this on Wikidata
PlantPierre Péguy, Marcel Péguy, Germaine Péguy Edit this on Wikidata
Gwobr/auMort pour la France, Cystadleuthau Cyffredinol, Estrade-Delcros award, Broquette-Gonin prize in poetry, Chevalier de la Légion d'Honneur, Croix de guerre 1914–1918 Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.charlespeguy.fr/ Edit this on Wikidata
llofnod

Ganed yn Orléans, Loiret, yng nghyfnod Trydedd Weriniaeth Ffrainc, i deulu tlawd. Bu farw ei dad pan oedd Charles yn faban, ac enillodd ei fam arian wrth drwsio cadeiriau. Derbyniodd Charles ysgoloriaeth i fynychu'r lycée yn Orléans, ac ym 1894 cafodd ei dderbyn i'r École Normale Supérieure ym Mharis. Ei nod oedd i gael swydd yn athro athroniaeth. Trodd Péguy yn sosialydd ym 1895, ac yn raddol rhoes y gorau i'w Gatholigiaeth Rufeinig draddodiadol, er iddo barhau yn Gristion pybyr. Ysgrifennodd driawd o ddramâu, Jeanne d'Arc (1897), yn ddatganiad o'i daliadau crefyddol a gwleidyddol.[1] Dan ddylanwad Lucien Herr, llyfrgellydd yr École Normale Supérieure, ymochrai Péguy â'r Dreyfusiaid yn achos Dreyfus, a rheolodd siop lyfrau a oedd yn fan cyfarfod i'r Dreyfusiaid.

Ym 1900 sefydlodd y cylchgrawn llenyddol Cahiers de la Quinzaine, a fyddai'n cyhoeddi gwaith gan nifer o lenorion a meddylwyr amlwg gan gynnwys Anatole France, Henri Bergson, Jean Jaurès, a Romain Rolland. Cyhoeddodd Péguy sawl cyfrol o'i ysgrifau, ac mae ei farddoniaeth yn cynnwys Le Mystère de la charité de Jeanne d’Arc (1910), gwaith cyfriniol sydd yn ymhelaethu ar olygfeydd Jeanne d'Arc; Mystère des Saints Innocents (1912); ac Ève (1913), cerdd Gristnogol ar ffurf 4000 o alecsandrinau.[1]

Yn sgil dechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf, aeth Péguy i'r ffrynt fel lefftenant. Bu farw ym Mrwydr Cyntaf y Marne, ger Villeroy, Seine-et-Marne, yn 41 oed.[1]

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 1.2 (Saesneg) Charles Péguy. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 17 Mawrth 2021.