Charlotte M. Taylor
Mae Charlotte M. Taylor (ganwyd 1955) yn fotanegydd nodedig ac yn athro Prifysgol a aned yn Unol Daleithiau America, a'i nain yn hannu o Ogledd Cymru.[1] Un o'r sefydliadau a'i chyflogodd fel botanegydd oedd Muséum national d'histoire naturelle. Tacsonomeg yw ei harbenigedd, ynghyd â chadwraeth, yn enwedig y teulu Rubiaceae - mae coffi a Cwinin yn aelodau o'r teulu hwn o blanhigion.[2]
Charlotte M. Taylor | |
---|---|
Ganwyd | 1955 Michigan |
Man preswyl | Unol Daleithiau America |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | botanegydd, curadur, casglwr botanegol, ecolegydd |
Cyflogwr | |
Priod | Roy Emile Gereau |
Dynodwr rhyngwladol yr awdur ar Gofrestr Rhyngwladol Enwau Planhigion (International Plant Names Index) yw 27568-1. Fel sy'n arferol mewn botaneg, ceir byrfodd yn hytrach nag enw llawn, pan ddyfnynir neu pan sonir am y person hwn, sef C.M.Taylor.
Mae Taylor wedi gweithio mewn nifer o wledydd, yn casglu enghreifftiau o'r planhigion e.e. Chile, Colombia, Costa Rica, Panama, ac UDA[2], ac wedi enwi nifer o rywogaethau newydd o'r gwleydd hyn. Erbyn 2015, roedd Taylor wedi enwi ac awduro 278 o enwau rhywogaethau gwahanol.[3]
Addysg
golyguCwbwlhaodd Taylor raddau B.Sc. o Brifysgol Michigan (1978), M.Sc. o Brifysgol Duke (1982), a Ph.D. hefyd oddi yno (1987).
Flora
golyguYmhlith ei chasgliadau a gyhoeddwyd ganddi mae:
- Flora Mesoamericana (12 genera a ca. 850 rhywogaeth)
- Flora of the Venezuelan Guayana (86 genera a 524 rhywogaeth)
- Flora of China (97 genera a ca. 700 rhywogaeth)
- Catalogue Rubiaceae treatments
- Ecuador (ca. 110 genera a 530 rhywogaeth)
- Peru (ca. 110 genera a 600 rhywogaeth)
- Bolivia (ca. 100 genera, 430 rhywogaeth)
Anrhydeddau
golyguGweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Gellir canfod gwybodaeth am y botanegydd yma ar y Cyfeiriadur Rhyngwladol ar Enwau Planhigion. Adalwyd 1 Rhagfyr 2016.
- ↑ 2.0 2.1 "Harvard University Herbaria & Libraries". kiki.huh.harvard.edu (yn Saesneg). Cyrchwyd 3 November 2017.
- ↑ Lindon, Heather L.; Gardiner, Lauren M.; Brady, Abigail; Vorontsova, Maria S. (5 Mai 2015). "Fewer than three percent of land plant species named by women: Author gender over 260 years". Taxon 64 (2): 209–215. doi:10.12705/642.4. http://www.ingentaconnect.com/contentone/iapt/tax/2015/00000064/00000002/art00003. Adalwyd 2018-11-20.
Mae gan Wicirywogaeth wybodaeth sy'n berthnasol i: Charlotte M. Taylor |