Saig o gwstard wy o Japan yw chawanmushi (茶碗蒸し, yn llythrennol "stêm cwpan te" neu "wedi'i stemio mewn powlen de").[1] Yn annhebyg i gwstardiau eraill, mae fel arfer yn cael ei fwyta fel rhan o bryd o fwyd, oherwydd bod chawanmushi yn cynnwys pethau sawrus yn hytrach na melys. Cymysgedd o wy a saws soia, dashi a mirin am eu blas yw'r cwstard, gyda nifer o gynhwysion fel madarch shiitake, kamaboko, gwreiddiau lilïau, corgimychiaid wedi'u berwi a ginco mewn cynhwysydd siâp cwpan te.[1] Mae'r rysáit yn debyg i un wyau wedi'u stemio Tsieineaidd, ond gall y topins fod yn wahanol. Gan nad oes modd codi cwstard wy â gweill bwyta, un o'r ychydig brydau Japaneaidd a fwytir â llwy yw hwn.

Chawanmushi

Gellir bwyta chawanmushi naill ai'n boeth neu'n oer. Os caiff nwdls udon eu hychwanegu, gelwir y pryd yn odamaki mushi neu odamaki udon.

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 Downer, Lesley (2001). At the Japanese Table: New and Traditional Recipes. Chronicle Books. t. 103. ISBN 978-0-8118-3280-9.