Chicago 'L'
Rhwydwaith o reilffyrdd sy'n gwasanaethu Chicago yn yr Unol Daleithiau yw'r Chicago L.
Enghraifft o'r canlynol | trafnidiaeth gyflym awtomataidd |
---|---|
Rhan o | transportation in Chicago |
Dechrau/Sefydlu | 1895 |
Perchennog | Chicago Transit Authority |
Yn cynnwys | Red Line, Blue Line, Brown Line, Green Line, Orange Line, Purple Line, Pink Line, Yellow Line, The Loop, Purple Line Express |
Lled y cledrau | 1435 mm |
Gweithredwr | Chicago Transit Authority |
Enw brodorol | Chicago "L" |
Rhanbarth | Chicago |
Hyd | 102.8 milltir |
Gwefan | https://www.transitchicago.com/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Hanes
golyguRhwydwaith o reilffyrdd yn gwasanaethu Chicago yw'r 'L'. Adeiladwyd yr 'L' gan sawl cwmni. Unwyd y system ym 1924, er cadwyd y leiniau gwahanol fel rhannau y gyfundrefn. In 1947, Daeth y system yn un cyhoeddus ym 1947.[1]
Cwmniau gwreiddiol
golyguSouth Side "L"
golyguFfurfiwyd y Chicago and South Side Rapid Transit Railroad Company ym 1888 ac agorwyd lein, 3.6 milltir o hyd, o Congress St – ar gyrion yr ardal fusnes - i 39eg St, ym 1892. Defnyddiwyd locomotifau stêm hyd at 1898, pan osodwyd trydydd cledr ar gyfer trydan. Adeiladwyd sawl cangen, gan gynnwys un i Ashland, sydd erbyn hyn y Lein Goch. Caewyd y gweddill.[1]
Lake Street "L"
golyguFfurfiwyd y cwmni gan Michael C. McDonald ym 1888 ac agorwyd y lein ym 1893, yn defnyddio locomotifau stêm. Aeth y lein wreiddiol o 52eg Avenue i Market & Madison, ar gyrion gorllewin yr ardal fusnes.[1]
Metropolitan West Side "L"
golyguFfurfiwyd cwmni ym 1892.Aedd y lein o Franklin St, ar gyrion yr ardal busnes, a holltodd yn dair cangen ym Marshfield Avenue. Y tair cangen oedd Garfield Park i'r gorllewin, Douglas Park i'r dwyrain orllewin a Logan Square i'r gogledd orllewin. Yn wreiddiol, aeth y lein Douglas Park i Western Ave/21ain St, ac hwyrach i 46eg (Kenton) Ave Aeth lein Garfield Park i 48eg (Cicero) Avenue. Aeth lein Logan Square i'r gogledd hyd at Milwaukee Avenue ac wedyn yn ogledd-orllewinol i Logan Square. Roedd yn gangen o Robey (Damen) St i Humboldt Park. Estynnwyd y lein Douglas Park i Oak Park, ac erbyn 1913, aeth lein Garfield Park i Des Plaines. Roedd yr 'L' cyntaf i fod yn lein drydanol o'r cychwyn.[1]
Union Loop
golyguTrefnwyd y lein ynghanol y ddinas gan Charles Tyson Yerkes. Ni gyrhaeddodd unrhyw lein gynnar ganol y ddinas; oedd hyn yn anfantais mawr iddynt, yn cymharu â'r dramffyrdd. Perswadiodd Yerkes berchnogion yr adeiladau canol ddinas – gan gynnwys perchnogion y siopau mawr – i roi caniatâd i adeiladu leiniau uwchben y strydoedd. Adeiladwyd rhannau'r 'Loop' gan ddau o'r hen gwmnïau, a chreuwyd dau gwmni newydd, yr Union Elevated Railroad ac yr Union Consolidated Elevated Railroad a chydgordiodd Yerkes y cwbl. Agorwyd y lein yn raddol rhwng 1895 a 1897.[1][2] Roedd effaith y 'Loop' yn un drawiadol ar ganol y ddinas ac ar y leiniau eraill.
Northwestern "L"
golyguFfurfiwyd y Northwestern Elevated Railroad Company ym 1893 ond methodd ddechrau gwasanaeth tan 1900 oherwydd problemau cyllidol a chyfreithiol. Aeth y lein o 5ed (Wells) a Lake ar y 'loop' i Wilson Avenue. Ym 1907, agorwyd cangen o Clark Street i Lawrence a Kimball. Estynnwyd y brif lein o Wilson St wrth defnyddio cledrau y Rheilffordd Chicago, Milwaukee & St. Paul. Trydanwyd yr estyniad a dechreuodd gwasanaeth i Central Street yng ngogledd Evanston ym Mai 1908. Wedyn crëwyd estyniad arall o Central Street i Linden Avenue yn Wilmette wrth ddefnyddio traciau'r Rheilffordd Chicago North Shore a Milwaukee.[1]
Uno
golyguCrëwyd y 'Chicago Elevated Railways Collateral Trust' ym 1911, yn uno'r 4 cwmni gwreiddiol o dan arweiniad Samuel Inshull, er cadwodd y 4 eu hunaniaethau. Dechreuwyd gwasanaethau trên dros y ddinas yn 1913; yr un cyntaf rhwng Jackson Park a Linden. Roedd hi'n bosibl prynu tocyn o unrhyw orsaf i unrhyw orsaf arall ar y rhwydwaith; adeiladwyd Gorsaf 'Lake St Transfer', yn hwyluso symud o'r leiniau Metropolitan a Lake St. Roedd Inshull yn berchennog y lein Chicago, North Shore & Milwaukee a dechreuodd gwasanaethau o'r Loop yr holl ffordd i Milwaukee, ac o'r lein North Shore dros y ddinas i Jackson Park.
Crëwyd y ' Chicago Rapid Transit Company' ym 1924, yn creu un cwmni i redeg y cwbl[2]. Estynnwyd y lein 'North Shore' i 'Niles Center', sydd erbyn hyn Skokie. Defnyddiwyd yr un lein gan yr 'L', yn stopio seithwaith yn Evanston a Skokie ar y ffordd. Wrth defnyddio cledrau yn o reilffyrdd eraill Samuel Inshull, cyrheadodd yr 'L' Westchester. Erbyn 1927, cafodd y rhwydwaith 227.49 milltir o gledrau a 227 o orsafoedd yn y ddinas. Ar gyfartaledd, cludwyd 627,157 o deithwyr, ar 5306 o drenau, pob diwrnod yn ystod yr wythnos.[1]
Rheilffyrdd Tanddaearol
golyguCeisiwyd creu rheilffyrdd tanddaearol ers diwedd y pedwaredd ganrif ar bumtheg, ond nad oedd digon o bres tan 1937, pan rhoddwyd grantiau ar gyfer gwaith cyhoeddus gan lywodraeth Franklin Delano Roosevelt. Adeiladwyd 2 dwnnel, un o dan State Street – agorwyd ym 1943[3] - y llall o dan Milwaukee Avenue a Dearborn Street. Aeth trenau o Evanston a Skokie o dan State Street, ac ymlaen i'r De. Dyma'r Lein Goch heddiw. Cysylltwyd 2 gangen y Metropolitan West Side "L", i Logan Square ac i Garfield/Douglas Park, gan y dwnnel arall. Agorwyd y twnnel Milwaukee/Dearborn ar 25 Chwefror, 1951 ar ôl cyfyngiadau cyllidol yr ail ryfel byd.[1]
CTA
golyguErbyn y 1940au, roedd y cwmnïau preifat i gyd mewn trafferthion cyllidol, ac roedd cyflwr eu cerbydau'n wael. Crëwyd y CTA (Chicago Transit Authority) ar 12 Ebrill 1945 efo pwerau i brynu, perchen a gweithredu cludiant cyhoeddus yn y ddinas. Gwerthwyd cyfranddaliadau er mwyn codi arian i brynu'r rhwydwaith. Ar 1 Hydref 1947, cymerwyd drosodd y rheilffyrdd.[4]
Caewyd 6 lein bach a mwy 'na 100 o orsafoedd, a thorrodd y gweithlu gan 50%, er mwyn datrys y problemau ariannol ac i ddechrau addasu i'r problemau wedi achosi gan gyrhaeddiad y car. Doedd y rhwydwaith ddim wedi newid llawer ers degawdau, ac roedd rhaid dechrau'r proses.
Ym 1948, caewyd y lein rhwng Howard a Skokie a throsglwyddodd y traffig i fysiau. Yr un flwyddyn, dechreuodd gwasanaethau 'A/B skip stop'; penodwyd gorsafoedd 'A' neu 'B' neu 'AB'. Mae trenau 'A' yn stopio yng ngorsafoedd 'A' ac 'AB', trenau 'B' yng ngorsafoedd 'B' ac 'AB' ac mae trenau 'All Stops' yn stopio ym mhob un ohonynt. Cymerodd gwasanaeth bws lle'r cangen Westchester, ac erbyn 1960 roedd y canghennau Humboldt Park, Normal Park, Stock Yards, a Kenwood wedi cau, ac roedd chwarter y rhwydwaith wedi mynd.
Dechreuwyd gwaith creu rhwydwaith o draffyrdd yn y ddinas ym 1949. Adeiladwyd y “Congress Expressway” - ailenwyd yn ddiweddarach yr “Eisenhower Expressway” rhwng 1949 a 1960, yn dilyn trwyth hen gangen Garfield Park o'r Metropolitan “L”, yn cynnwys lein newydd rhwng y ddau rhan o'r ffordd newydd. Dinistriodd y lein wreiddiol, felly adeiladwyd lein dros-dro ar ochr Stryd Van Buren. Aeth y lein newydd trwy twnnel Milwaukee/Dearborn i'r lein i Logan Square; dyma'r Lein Las erbyn heddiw.[1]
Y Lein Skokie
golyguCaewyd y lein “North Shore” ym 1964, a chymerwyd y cledrau rhwng Howard a Skokie drosodd gan y CTA. Cafodd y CTA grant o Washington gan Asiantaith Cenedlaethol Tai, ac ail-ddechreuodd eu hen wasanaeth efo'r enw “Skokie Swift”, heb orsafoedd rhwng Howard a Skokie. Bwriadwyd cael arbrawf dwy flynedd, yn cydllunio bysiau a threnau, a hefyd yn cynnwys maes parcio, i hwyluso defnydd o geir i gyrraedd gorsaf Skokie, sydd yn agos i'r Eden Expressway.
Cynllun gweiddiol oedd cynnal 50 o drenau'n ddyddyiol rhwng Skokie a Howard ac yn ôl rhwng 6yb a 10yh, o Lun i Wener, heb wasanaeth dros y penwythnos, yn defnyddio 4 cerbyd. Cariwyd 3939 o deithwyr ar y diwrnod cyntaf, yn codi i 7500 erbyn diwedd 1967, cymhariwyd â 1500 ar y hen lein North Shore. Ychwanegwyd mwy o gerbydau, mwy o wasanaethau, a gwasanaeth dydd Sadwrn. Ar ddiwedd cyfnod yr arbrawf, daeth y lein yn rhan o strwythur rheolaidd y CTA.[1]
Lein Dan Ryan
golyguAdeiladwyd y Lein Dan Ryan rhwng 1967 a 1969. Cost y lein oedd $38,000,000 ac agorwyd y lein ar 28 Medi, 1969. Aeth y lein o gyffordd strydoedd 95fed a State, ac aeth rhwng dau hanner y Dan Ryan Expressway hyd at Stryd 31eg ac wedyn ar ei llwybr ei hun i'r Loop. Aeth y trenau ymlaen ar lein Lake, ond doedd y cyfuniad ddim yn llwyddiannus; roedd trenau'n llawn ar Lein Dan Ryan ac hanner wag ar lein Lake. Symudodd llawer o deithwyr o Lein Englewood/Jackson Park, yn creu problem debyg ar trenau llawn o Howard sydd wedi dod yn hanner wag erbyn cyrraedd Lein Englewood/Jackson Park.[1]
Estyniad Kennedy
golyguEstynnwyd y Lein Milwaukee hyd at Jefferson Park ym 1970, ac eto yn yr 80au i Faes Awyr O'Hare. Roedd angen adeiladu twnnel o derminws Lein Milwaukee i'r Kennedy Expressway, ac wedyn adeiladu lein rhwng dau hanner y draffordd ag adeiladwyd a defnyddir yn barod. Cost yr estyniad oedd $50,000,000 ac agorwyd y lein ar 1 Chwefror 1970.[1]
Estyniad i Faes Awyr O'Hare
golyguAgorwyd estyniad hyd at orsaf River Road (Rosemont erbyn hyn) ar 27 Chwefror 1983, ac i Faes Awyr O'Hare ar 3 Medi 1984.
Adlinelliad ynghanol y ddinas
golyguRoedd trenau ar leiniau Howard a Dan Ryan yn brysur iawn, annhebyg i hanner arall eu siwrnai, ar leiniau Englewood-Jackson Park a Lake. Buasai'n well uno leiniau Howard a Dan Ryan, efo trenau hir, ac Englewood-Jackson Park a Lake efo trenau byrrach, ond doedd yno ddim arian ar gael tan yr 80au i gwblhau'r cysylltiad. Dechreuodd y gwasanaeth ar ei newydd wedd ar 21 Chwefror 1993.[1]
Ar yr un diwrnod newidiwyd enwau'r rhannau gwahanol y rhwydwaith, yn ddefnyddio lliwiau.
Lein Binc
golyguAgorwyd y lein binc ar 25 Mehefin 2006. Roedd hi'n hen gangen y Lein Las ac yn mynd o 54/Cermak i Orsaf Polk-Medical Center. Mae trenau'n ymuno cangen Lake Street y Lein Werdd ac yn mynd i'r 'Loop'.[5]
Leiniau
golyguMae gan yr 'L' 8 lein[6]. Mae pob un ohonynt, heblaw'r Lein Felen, yn mynd ar ddolen canol ddinas.
Lein Las
golyguO Faes Awyr O'Hare trwy ganol y ddinas i Forest Park.
Lein Frown
golyguO Kimball i ganol y ddinas.
Lein Werdd
golyguO Harlem/Lake trwy ganol y ddinas i Cottage Grove.
Lein Oren
golyguO faes awyr Midway i ganol y ddinas.
Lein Binc
golyguO 54eg/Cermak i ganol y ddinas.
Lein Borffor
golyguO Linden i Howard. Rhwng Dydd Llun a dydd Gwener, yn ystod yr oriau brig, mae trenau yn mynd ymlaen o Howard i ganol y ddinas.
Lein Goch
golyguO Howard i Ashland/63eg trwy ganol y ddinas. Mae'n gwasanaethu Bryn Mawr a Berwyn.
Lein Felen
golyguO Dempster-Skokie i Howard.
Llyfryddiaeth
golygu- Bruce G. Moffat, The 'L': The Development of Chicago's Rapid Transit System, 1888-1932
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.00 1.01 1.02 1.03 1.04 1.05 1.06 1.07 1.08 1.09 1.10 1.11 1.12 Gwefan am hanes yr 'L'
- ↑ 2.0 2.1 Gwefan Geoffrey Baer
- ↑ gwefan Forgotten Chicago.com
- ↑ tudalen wybodaeth y CTA
- ↑ West Side/West Suburban Corridor Service Enhancements, gwefan CTA
- ↑ Gwefan CTA; tudalen am lwybrau bysiau a threnau[dolen farw]
Dolen allanol
golygu- (Saesneg) Gwefan Chicago Transit