Chişinău
(Ailgyfeiriad o Chisinau)
Prifddinas Moldofa a dinas fwyaf y wlad honno yw Chişinău (hefyd Kishinev weithiau; Rwseg: Кишинёв, Kishinyof). Mae'n gorwedd yng nghanol Moldofa, ar lannau Afon Bîc. Yn economaidd, hon yw'r ddinas fwyaf llewyrchus yn y wlad a'i chanolfan diwydiant a chludiant pwysicaf. Yn ogystal, mae Chişinău yn un o ddinasoedd mawr mwyaf gwyrdd Ewrop, gyda chanran uchel o barcdir a llecynnau agored eraill. Mae dros haner miliwin o bobl yn byw yno.
Math | dinas, dinas fawr, bwrdeistref |
---|---|
Poblogaeth | 639,000 |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Ion Ceban |
Cylchfa amser | UTC+2 |
Gefeilldref/i | Tbilisi, Vilnius |
Daearyddiaeth | |
Sir | Bwrdeistref Chișinău |
Gwlad | Moldofa |
Arwynebedd | 123 km² |
Uwch y môr | 85 ±1 metr |
Gerllaw | Afon Bîc |
Cyfesurynnau | 47.0228°N 28.8353°E |
Cod post | MD-20xx |
Pennaeth y Llywodraeth | Ion Ceban |
Adeiladau a chofadeiladau
golygu- Eglwys Uniongred Ciuflea
- Neuadd y Ddinas
- Tŵr Dŵr
- Tŵr yr Wybren
Enwogion
golygu- Lewis Milestone (1895-1980), cyfarwyddwr ffilm