Chris Needs

Personoliaeth radio a cherddor o Gymro

Cyflwynydd radio a cherddor Cymreig oedd Christopher Needs MBE (12 Mawrth 195426 Gorffennaf 2020).[1][2] Roedd hefyd yn actor a phianydd.[3]

Chris Needs
Ganwyd12 Mawrth 1954 Edit this on Wikidata
Cwmafan Edit this on Wikidata
Bu farw26 Gorffennaf 2020 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethcyflwynydd radio, pianydd, canwr Edit this on Wikidata
Gwobr/auMBE Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.chrisneeds.co.uk/ Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar ac addysg golygu

Ganwyd Chris yng Nghwmafan ger Port Talbot yn fab i Margaret Rose (1934-2000) a Harold (-1996), gweithwr dur. Roedd ganddo ddau frawd iau. Cymraeg oedd iaith yr aelwyd ond byddai hynny yn newid pan ddaeth ei dad adref gan nad oedd ei dad yn siarad unrhyw Gymraeg. Fe'i addysgwyd yn ysgol gynradd Cwmafan ac Ysgol Dyffryn, Port Talbot.

Aeth ymlaen i wneud MA a doethuriaeth mewn Cerddoriaeth gyda'r Associated Board, Llundain.

Gyrfa golygu

Roedd Chris yn actor a pianydd clasurol a gweithiodd mewn nifer o wledydd yn Ewrop, gan ddysgu Sbaeneg ac Iseldireg.

Cychwynodd ei yrfa radio ar orsaf radio annibynnol, Touch AM. Ymunodd a BBC Radio Wales yn 1996 ac yn 2002 cychwynodd gyflwyno ei sioe nosweithiol The Friendly Garden Programme lle'r oedd ar yr awyr rhwng 23:00 a 01:00. Roedd Needs yn boblogaidd iawn gyda gwrandawyr BBC Radio Wales, drwy sgwrsio gyda nhw ar yr awyr a'i gwahodd i ymuno gyda'i glwb cymunedol 'The Garden'.[4] Bu'n cyflwyno'r rhaglen am 18 mlynedd hyd at y dydd Gwener cyn ei farwolaeth.

Bywyd personol golygu

Roedd Chris yn ymwybodol o fod yn hoyw ers ei arddegau ac yn ei hunangofiant soniodd am y gwawdio a'r erlid derbyniodd yng Nghymru oherwydd ei rywioldeb. Yn ystod ei arddegau cafodd ei gamdrin yn rhywiol gan rywun er roedd yn gwrthod ei henwi. O ganlyniad i hyn ceisiodd ladd ei hun.[5] Priododd ei ŵr, Gabe Cameron, ar 13 Mawrth 2013 yn Neuadd y ddinas, Caerdydd.

Bu farw yn 2020 wedi dioddef o waeledd ers peth amser gyda'i galon. Dwedodd datganiad y BBC: "Cwbl unigryw. Cwsg mewn hedd, Chris". Cynhaliwyd ei angladd ar 14 Awst 2020 a daeth torf allan ar ochr y stryd yng Nghwmafan i dalu teyrnged wrth i'r hers gludo ei gorff i Amlosgfa Margam. Oherwydd cyfyngiadau coronafeirws, roedd yr angladd yn un preifat.[6]

Llyfryddiaeth golygu

  • Like It Is: My Autobiography (2007)
  • The Jenkins's's's's's (2008)
  • And There's More ... My Autobiography - part 2 (2009)

Cyfeiriadau golygu

  1.  Chris Needs - The Highs and Lows. Gwales (Tachwedd 2013). Adalwyd ar 27 Gorffennaf 2020.
  2. "Index entry". FreeBMD. ONS. Cyrchwyd 27 July 2020.
  3. Y darlledwr radio Chris Needs wedi marw yn 66 oed , BBC Cymru Fyw, 27 Gorffennaf 2020.
  4. "Chris Needs, y cyflwynydd radio poblogaidd, wedi marw". Golwg360. Cyrchwyd 27 Gorffennaf 2020.
  5. Steffan Rhys (15 November 2009). "Gay taunts have made my life hell". South Wales Echo. Cyrchwyd 12 June 2014.
  6. Cynnal angladd y darlledwr Chris Needs , BBC Cymru Fyw, 14 Awst 2020.