Christian Prudhomme
Gohebydd chwaraeon o Ffrainc a chyfarwyddwr cyffredinol y Tour de France ers 2005 yw Christian Prudhomme (ganwyd 11 Tachwedd 1960).
Christian Prudhomme | |
---|---|
Ganwyd | Christian Georges Pierre Prudhomme 11 Tachwedd 1960 12fed arrondissement Paris |
Dinasyddiaeth | Ffrainc |
Alma mater | |
Galwedigaeth | newyddiadurwr, gweinyddwr chwaraeon |
Swydd | cyfarwyddwr |
Gwobr/au | Chevalier de la Légion d'Honneur, Officier de l'ordre national du Mérite |
Chwaraeon |
Gyrfa cyn y Tour
golyguAstudiodd Prudhomme yn ysgol gohebaeth ESJ yn Lille rhwng 1983 a 1985. Ymunodd â RTL (Radio-Télévision Luxembourg) ym 1985 gyda annogaeth ei diwtor, Michel Cellier, a oedd yn ohebydd ar gyfer RTL yn ardal y Nord. Ymunodd â RTL ar dreial ond ni gadwyd ef yno wedi i'r treial ddod i ben. Symudodd Prudhomme i RFO ac ar 3 Awst 1987 i'r sianel teledu, La Cinq, fel newyddiadurwr odan Pierre Corgioni. Adroddodd hanes y chwaraeon a ddiddorodd ef fwyaf, sef seiclo, rygbi, athletau a sgio.