Chwarel Prince of Wales
Chwarel lechi yng Nghwm Trwsgl yn rhan uchaf Cwm Pennant, Gwynedd oedd Chwarel Prince of Wales. Credir iddi agor yn y 1860au, a chaeodd yn 1886.
Daearyddiaeth | |
---|---|
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Gwariwyd cryn symiau o arian ar ddatblygu'r chwarel, ac ar un adeg cyrhaeddodd y gweithlu tua 200. Fodd bynnag, ni fu'n llwyddiant masnachol.