Chwarel Ratgoed
Chwarel lechi gerllaw Aberllefenni yn ne Gwynedd oedd Chwarel (y) Ratgoed[1][2] neu Chwarel (y) Ralltgoed[3][4] (ffurfiau amgen: yr Atgoed[5]; yr Alltgoed[6]). Hi yw'r fwyaf gogleddol o'r chwareli a wasanaethir gan Reilffordd Corris.
Math | chwarel |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.6897°N 3.8004°W |
Enw
golygu'Yr Atgoed' yw'r enw gwreiddiol ar yr ardal. Ystyr 'atgoed' yw coed sydd wedi aildyfu ar ôl cael eu torri. Cymharol gyfoes yw'r enwau sy'n cynnwys yr elfen 'allt'.[7][8]
Hanes
golyguDechreuodd gweithio llechi yma cyn 1840, pan grybwyllir y chwarel yn ewyllys Horatio Nelson Hughes. Caeodd y chwarel am gyfnod tua diwedd y 1840au, cyn ail-agor yn 1851. Yn y 1850au, roedd yn cael ei rhedeg gan John Rowlands fel rhan o Alltgoed Consols, partneriaeth oedd hefyd yn berchen ar Chwarel Braich Goch. Tua dechrau'r 1860au, diswyddwyd Rowlands a dychwelodd y chwarel i feddiant Horatio Nelson Hughes.
Agorwyd Tramffordd Ratgoed yn 1859 i gysylltu â Rheilffordd Corris. Roedd wedi cau erbyn 1900; ail-agorodd yn 1901 ond roedd wedi cau eto erbyn 1903. Ail-agorodd eto yn 1907. Yn 1924, prynwyd y chwarel gan Harber & Thomas Ltd., perchenogion Chwarel Llwyngwern. Caeodd yn derfynol yn 1946.
Llyfryddiaeth
golygu- Alun John Richards, Slate Quarrying at Corris (Gwasg Carreg Gwalch, 1994)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Gogledd Cymru". Y Drych. 12 Chwefror 1891. https://papuraunewydd.llyfrgell.cymru/view/3540333/3540341/101/ratgoed.
- ↑ "Corris". Y Negesydd. 21 Medi 1900.
- ↑ "Aberllefenni". Y Negesydd. 2 Gorffennaf 1903.
- ↑ "Corris". Y Negesydd. 8 Mawrth 1906.
- ↑ "Corris a'r cyffiniau". Y Genedl Gymreig. 25 Gorffennaf 1883.
- ↑ "Corris". Y Negesydd. 11 Hydref 1906.
- ↑ "Un enw mewn pum munud: Ratgoed". Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2 Chwefror 2022.
- ↑ Richards, Melville (1964). "Nodiadau amrywiol: Betws Ithel; Cae Mab Ynyr; Cefn y March Brethyn; Tanreg; atgoed, edwydd". Bwletin y Bwrdd Gwybodau Celtaidd 20(4): 391.