Brîd o gi yw ci Affgan[1] (Pashto: تاژي سپی Tāžī Spay, Dari: سگ تازی Sag-e Tāzī). Mae'n fath o helgi sy'n tarddu o fynyddoedd Affganistan.

Ci Affgan
Ci Affgan ar ei sefyll.
Enghraifft o'r canlynolbrîd o gi Edit this on Wikidata
Mathci Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Ers talwm, bu rhai yn credu i'r brîd hwn darddu o'r Hen Aifft, ond nid oes tystiolaeth o gwbl i gefnogi'r dybiaeth hon. Datblygwyd gan helwyr Affganistan i fod yn gi hynod o gyflym ac eiddgar, a chanddo esgyrn cluniau llydain wedi eu haddasu at dirwedd garw'r mynyddoedd, sydd yn canlyn ei ysglyfaeth gyda'i llygaid yn hytrach na'i drwyn. Defnyddiwyd i hela pob math o anifeiliaid, gan gynnwys llewpart yr eira a'r afrewig.[2]

Dygwyd cŵn Affgan i Ewrop yn gyntaf yn niwedd y 19g, gan filwyr Prydeinig a ddychwelant o Ail Ryfel yr Ymerodraeth Brydeinig yn Affganistan a mân-ryfeloedd eraill ar hyd y ffin rhwng y Raj ac Emiraeth Affganistan. Cafodd ei fridio yn Lloegr ac Unol Daleithiau America, ac yn ddiweddarach gwaharddwyd cŵn Affgan rhag cael eu hallforio o'u gwlad frodorol gan lywodraeth Affganistan, er iddynt gael eu rhoi weithiau yn anrhegion i wŷr pwysig a oedd yn ymweld â'r wlad. Mae'n gi anwes poblogaidd o hyd yn Affganistan.[3]

Mae ganddo goesau hirion, clustiau llipa, côt sidanaidd o flew hir, a chynffon fain sydd yn troi i fyny. Mae'n sefyll 60 i 70 cm ac yn pwyso rhyw 25 kg.[2]

Cyfeiriadau golygu

  1. Geiriadur yr Academi, "Afghan".
  2. 2.0 2.1 (Saesneg) Afghan hound. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 21 Awst 2021.
  3. Ludwig W. Adamec, Historical Dictionary of Afghanistan (Lanham, Maryland: The Scarecrow Press, 2003), t. 14.