Ci Esgimo Canadaidd
Ci sled sy'n tarddu o Ganada yw'r Ci Esgimo Canadaidd. Mae'n bosib ei fod yn frîd pur ers 10,000 mlynedd, neu ei fod yn ddisgynnydd y blaidd. Mae'n gi cydnerth ac esgyrnfawr, yn debyg i gŵn sled eraill megis y Ci Esgimo Alasgaidd a'r Hysgi Siberaidd. Nid yw'r Ci Esgimo Canadaidd yn berthynas agos i'r Ci Esgimo Americanaidd, sy'n tarddu o'r sbits Almaenig.[1]
Enghraifft o'r canlynol | brîd o gi |
---|---|
Math | inuit sledge dog |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) Eskimo dog. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 27 Hydref 2013.