Ci Weimaraner
Ci adar sy'n tarddu o'r Almaen yw'r Ci Weimaraner.[1] Cafodd ei ddatblygu ar ddechrau'r 19eg ganrif gan bendefigion Almaenig yn llys Weimar i hela anifeiliaid mawr. Yn hwyrach cafodd ei ddefnyddio i hela a nôl adar.[2]
Math o gyfrwng | brîd o gi |
---|---|
Màs | 30 cilogram, 40 cilogram, 25 cilogram, 35 cilogram |
Gwlad | yr Almaen |
Enw brodorol | Weimaraner |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae'n gi gosgeiddig a chanddo osgo effro a phwyllog. Mae ganddo glustiau llipa, llygaid o liw glas, llwyd neu ambr, a chôt o flew byr a llyfn o liw llwyd llygoden neu lwyd arian. Mae ganddo daldra o 58 i 68.5 cm (23 i 27 modfedd) ac yn pwyso 32 i 39 kg (70 i 85 o bwysau). Mae'n gi hela ymladdgar ac yn gi cymar a gwarchotgi da.[2]
Daeth y brîd hwn yn enwog ar ddechrau'r 1970au trwy ffotograffau a fideos William Wegman.[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Geiriadur yr Academi, [Weimaraner].
- ↑ 2.0 2.1 2.2 (Saesneg) Weimaraner. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 28 Hydref 2014.