Cimwch
Cramenogion o'r teulu Nephropidae (neu Homaridae) yw cimychiaid (unigol: cimwch). Mae ganddyn nhw gyrff hir a chynffonau cyhyrog ac maen nhw'n byw mewn tyllau o dan y môr. Mae gan dri o'u pum pâr o goesau grafangau, gan gynnwys eu pâr cyntaf sydd â chrafangau llawer mwy na'r lleill.
Cimwch Ewropeaidd (Hommarus gammarus) | |
Enghraifft o'r canlynol | tacson |
---|---|
Safle tacson | teulu |
Rhiant dacson | Astacidea, Nephropoidea |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae cimychiaid yn cael eu gwerthfawrogi'n fawr fel bwyd môr.