Haint bacteriol yw Clamydia a achchosir gan y bacteriwm Clamydia trachomatis. Mae'n haint a drosglwyddir yn rhywiol (STI). Gellir ei ddal drwy ryw gweiniol, rhefrol neu eneuol diamddiffyn. Mae amlder clamydia wedi cynyddu fesul tipyn ers y 1990au ac erbyn 2017 dyma oedd yr STI mwyaf cyffredin. Mae gan un fenyw o bob 10 dan 25 oed sy'n weithredol yn rhywiol siawns o gael clamydia. Gwrywod rhwng 20 a 30 oed yw'r rhai sydd â’r risg fwyaf.[1]

Clamydia
Enghraifft o'r canlynolhaint a drosglwyddir yn rhywiol, dosbarth o glefyd Edit this on Wikidata
Mathcommensal bacterial infectious disease, commensal Chlamydiaceae infectious disease, clefyd Edit this on Wikidata
Arbenigedd meddygolAfiechydon heintiol edit this on wikidata
AchosChlamydia trachomatis d/uw-3/cx edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Symptomau golygu

Nid oes gan tua 50% o ddynion heintiedig a 70% o fenywod heintiedig unrhyw symptomau, felly gall gael ei drosglwyddo heb i'r unigolyn heintiedig sylweddoli - fel rheol ni chaiff yr achosion hyn eu diagnosio. Mae diagnosis yn digwydd pan fydd symptomau'n ymddangos.

Gellir trin clamydia anghymleth yn hawdd gyda gwrthfiotigau. Dylai partneriaid rhywiol diweddar unigolyn heintiedig gael profion er mwyn atal ail-heintio ac ymlediad y clefyd.[2]

Menywod golygu

  • llid y bledren
  • newid yn eu rhedlif gweiniol, a
  • phoen ysgafn yn rhan isaf yr abdomen.

Gall clamydia heb ei drin gael nifer o effeithiau difrifol. Gall menywod ddatblygu clefyd llidiol y pelfis (PID) a all achosi anffrwythlondeb, risg uwch o feichiogrwydd ectopig ac erthyliad naturiol, poen yn ystod cyfathrach rywiol a gwaedu rhwng y mislif.

Gall menyw feichiog heintiedig drosglwyddo'r bacteria i'w baban yn ystod genedigaeth gan wneud i'r baban gael ei eni gyda llid y gyfbilen neu lid yr ysgyfaint.

Dynion golygu

  • rhedlif o agoriad y pidyn
  • cosi poenus ar flaen y pidyn

Mewn dynion mae cymhlethdodau'n fwy prin ond gallant achosi -

  • Epididymitis, llid y tiwb sy'n mynd o'r ceilliau i'r pidyn. Mae hyn yn achosi poen a chwydd o gwmpas y ceilliau.
  • Syndrom Reiter (arthritis) sy'n effeithio ar y llygaid a'r cymalau.
  • Ffrwythlondeb diffygiol.
  • Llid yr wrethra, y tiwb sy'n mynd o'r bledren i flaen y pidyn, gan achosi wrethritis.

Diagnosis golygu

Menywod golygu

  • Prawf troeth.
  • Swab o'r wain isaf.

Dynion golygu

  • Prawf troeth
  • Swab o agoriad yr wrethra ar flaen y pidyn (mwy dibynadwy na'r prawf troeth).

Cyfeiriadau golygu

  1. "2014 Sexually Transmitted Diseases Surveillance Chlamydia". 17 Tachwedd 2015. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 10 Mehefin 2016. Cyrchwyd 10 June 2016. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  2. "Iechyd a GofalCymdeithasol". CBAC. 2011. Cyrchwyd 2017. Check date values in: |accessdate= (help)