Y clefyd crafu

(Ailgyfeiriad o Clefyd crafu)

Mae'r clefyd crafu, yn glefyd heintus o'r gwiddonyn Sarcoptes scabiei.[1] Y symtomau mwyaf cyffredin yw cosi difrifol a rash rebyg i plorod.  Os yw unigolyn yn profi'r haint am y tro cyntaf, byddant fel arfer yn datblygu symptomau mewn rhwng dau a chwe wythnos. Os mai dyma'r ail dro iddynt gael yr haint, gall symptomau ymddangos mewn 24 awr. Gall y symptomau hyn fod ar draws y corff i gyd, neu mewn mannau penodol megis ar y garddynau, rhwng bysedd, neu ar hyd eu canol. Gall effeithio ar y pen, ond dim ond mewn plant ifant y gwelir hyn fel arfer. Mae'n aml yn cosi llawer yn waeth gyda'r nos. Gall grafu'r croen achosi haint bacterol ar y croen.[2]

Y clefyd crafu
Enghraifft o'r canlynolclefyd heintus, dosbarth o glefyd Edit this on Wikidata
Mathacarodermatitis, acariasis, haint ar y croen, neglected tropical disease, clefyd heintus, clefyd Edit this on Wikidata
Enw brodorolManqa Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Caiff y clefyd crafu ei achosi gan haint gyda'r gwiddonyn Sarcoptes scabiei var. hominis. Mae'r gwiddon yn mynd yn ddwfn i'r croen i fyw, ac yn gollwng wyau. Mae symptomau'r clefyd crafu o ganlyniad i adwaith alergaidd i'r gwiddon. Yn aml, dim ond rhwng 10 ac 15 gwiddon sy'n rhan o haint. Caiff y clefyd crafu ei ledaenu amlaf yn ystod cyfnod hir o gyswllt croen uniongyrchol ag unigolyn sydd wedi'i heintio (o leiaf 10 munud), megis cysylltiad wrth gael rhyw neu wrth fyw gyda rhywun.[3] Gellir lledaenu'r haint hyd yn oed os nad yw'r unigolyn wedi datblygu symptomau eto. Mae cyfleusterau byw gorlawn, megis mewn cyfleusterau gofal plant, cartref grŵp a charchardai yn cynyddu'r risg lledaenu. Mae hefyd gan ardaloedd sydd â diffyg mynediad at ddŵr gyfraddau uwch o'r clefyd.[4] Mae crefyd crafu crwst yn ffurf mwy difrifol o'r clefyd. Fel arfer, dim ond mewn pobl sydd â system imiwnedd wael mae hyn yn digwydd, a gall pobl gael miliynau o widdon, sy'n golygu eu bod yn fwy heintus. Yn yr achosion hyn, gall yr haint ledaenu yn ystod cyswllt byr neu drwy wrthrych sydd wedi'i heintio. Mae'r gwiddonyn yn fach iawn, ac fel arfer nid oes modd ei weld â'r llygad. Caiff diagnosis ei wneud yn seiliedig ar yr arwyddion a'r symptomau.

Mae nifer o feddyginiaethau ar gael i drin y rhai sydd wedi'u heintio, gan gynnwys eli permethrin, crotamiton, a lindane a thabledi ivermectin.[5] Dylid trin cysylltiadau rhywiol o fewn i mis diwethaf a phobl sy'n byw yn yr un tŷ ar yr un pryd. Dylid golchi dillad a dillad gwely a ddefnyddiwyd yn ystod y tri diwrnod diwethaf, a'u sychu mewn peiriant sychu poeth. Gan nad yw'r gwiddon yn byw am fwy na thri diwrnod i ffwrdd o groen pobl, nid oes angen golchi mwy. Gall symptomau barhau am ddwy neu bedair wythnos yn dilyn triniaeth. Os yw'r symptomau'n parhau ar ôl yr amser hwn, mae'n bosibl y bydd angen triniaeth arall.[6]

Mae'r clefyd crafu yn un o'r tri anhwylder croen mwyaf cyffredin mewn plant, ynghyd â tharwden a chlefydau croen bacterol.[7] Yn 2015, effeithiwyd ar oddeutu 204 miliwn o bobl (2.8% o boblogaeth y byd).[8] Mae yr un mor gyffredin ymhlith menywod a dynion.[9] Caiff pobl ifanc a phobl hŷn eu heffeithio mwyaf. Mae hefyd yn digwydd yn fwy cyffredin yn y byd datblygedig and rhinsawdd trofannol.[10] Nid yw anifeiliaid eraill yn lledaenu clefyd crafu pobl.[11] Caiff anifeiliaid eu heintio fel arfer drwy widdon ychydig yn debyg ond sy'n perthyn, a gânt eu hadnabod fel sarcoptic mange.[12]

Cyfeiriadau golygu

  1. Gates, Robert H. (2003). Infectious disease secrets (arg. 2.). Philadelphia: Elsevier, Hanley Belfus. t. 355. ISBN 978-1-56053-543-0.
  2. "Parasites – Scabies Disease". Center for Disease Control and Prevention. November 2, 2010. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2 May 2015. Cyrchwyd 18 May 2015. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  3. Dressler, C; Rosumeck, S; Sunderkötter, C; Werner, RN; Nast, A (14 November 2016). "The Treatment of Scabies.". Deutsches Arzteblatt international 113 (45): 757–62. doi:10.3238/arztebl.2016.0757. PMC 5165060. PMID 27974144. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=5165060.
  4. "WHO -Water-related Disease". World Health Organization. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-10-22. Cyrchwyd 2010-10-10. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  5. "Parasites – Scabies Medications". Center for Disease Control and Prevention. November 2, 2010. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 30 April 2015. Cyrchwyd 18 May 2015. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  6. "Parasites - Scabies Treatment". Center for Disease Control and Prevention. November 2, 2010. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 28 April 2015. Cyrchwyd 18 May 2015. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  7. "Skin disorders, including pyoderma, scabies, and tinea infections". Pediatr. Clin. North Am. 56 (6): 1421–40. December 2009. doi:10.1016/j.pcl.2009.09.002. PMID 19962029. https://archive.org/details/sim_pediatric-clinics-of-north-america_2009-12_56_6/page/1421.
  8. GBD 2015 Disease and Injury Incidence and Prevalence, Collaborators. (8 October 2016). "Global, regional, and national incidence, prevalence, and years lived with disability for 310 diseases and injuries, 1990–2015: a systematic analysis for the Global Burden of Disease Study 2015.". Lancet 388 (10053): 1545–1602. PMID 27733282.
  9. Vos, T (Dec 15, 2012). "Years lived with disability (YLDs) for 1160 sequelae of 289 diseases and injuries 1990–2010: a systematic analysis for the Global Burden of Disease Study 2010.". Lancet 380 (9859): 2163–96. doi:10.1016/S0140-6736(12)61729-2. PMID 23245607.
  10. "Scabies". World Health Organization. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 18 May 2015. Cyrchwyd 18 May 2015. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  11. "Epidemiology & Risk Factors". Centers for Disease Control and Prevention. November 2, 2010. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 29 April 2015. Cyrchwyd 18 May 2015. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  12. Georgis' Parasitology for Veterinarians (arg. 10). Elsevier Health Sciences. 2014. t. 68. ISBN 9781455739882.