Clive Sullivan

Chwaraewr rygbi'r gynghrair a hyfforddwr o Gymru

Chwaraewr rygbi'r gynghrair o Gymru oedd Clive A. Sullivan MBE (9 Ebrill 19438 Hydref 1985). Chwaraeodd ar yr asgell i glybiau Hull FC a Hull Kingston Rovers, ac i Oldham a Doncaster, ac i dimau Cymru a Phrydain Fawr. Pan wnaed Sullivan yn gapten tim Prydain Fawr ym 1972, ef oedd capten du cyntaf mewn unrhyw gamp yng ngwledydd Prydain.[1] Roedd yn aelod o'r tîm Prydain Fawr a enillodd Gwpan y Byd Rygbi'r Gynghrair 1972. Cafodd ei fab, Anthony Sullivan, yrfa lwyddiannus gyda Hull Kingston Rovers, St. Helens, a thros Gymru yn y gynghrair rygbi ac undeb, a Chlwb Rygbi Caerdydd.

Clive Sullivan
Ganwyd9 Ebrill 1943 Edit this on Wikidata
Caerdydd Edit this on Wikidata
Bu farw8 Hydref 1985 Edit this on Wikidata
o canser yr afu Edit this on Wikidata
Kingston upon Hull Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethchwaraewr rygbi'r gynghrair, chwaraewr rygbi'r undeb Edit this on Wikidata
Gwobr/auMBE Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/auHull F.C., Hull Kingston Rovers, Oldham R.L.F.C., Tîm rygbi'r gynghrair cenedlaethol Cymru, Great Britain national rugby league team Edit this on Wikidata
SafleAsgellwr Edit this on Wikidata
Gwlad chwaraeonCymru Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar golygu

Roedd Sullivan yn enedigol o ardal Sblot yng Nghaerdydd, a chafodd driniaethau i'w bengliniau, ei draed a'i ysgwyddai pan oedd yn ei arddegau cynnar. Ymunodd a'r fyddin yn 1961 a lleolwyd ef yn Catterick yn Swydd Efrog. Yno y dechreuodd chwarae rygbi'r gynghrair; cafodd ei ddewis i chwarae mewn gem rhwng corffluoedd am ei fod yn Gymro. Defnyddiodd ei ymarferion milwrol i wella fel chwaraewr a chafodd ei dderbyn i chwarae i Hull.

Cyfyngwyd tri thymor cyntaf Sullivan gan ei ddyletswyddau yn y fyddin, tair llawdriniaeth i'w ben-glin a damwain car bron yn angheuol ym mis Hydref 1963, er iddo ddychwelyd i chwarae rygbi dri mis yn ddiweddarach. Gadawodd y fyddin ar ôl cyfnod yng Nghyprus ym 1964. Yn rhydd o'i ymrwymiad i'r fyddin, dychwelodd i Hull mewn pryd i chwarae gêm olaf y tymor.

Gyrfa golygu

Roedd Sullivan yn eithriadol o gyflym, ac er yr anawsterau gyda'i bengliniau a llawdriniaethau pellach, sgoriodd 250 mewn 352 o gemau i Hull a sgorio 118 o geisiau mewn 213 o gemau i Hull Kingston Rovers. Bu'n gapten-hyfforddwr Hull FC rhwng 1973 a '74.

Chwaraeodd ei gêm ryngwladol gyntaf i dim Prydain Fawr ym 1967. Y flwyddyn ganlynol chwaraeodd dair gêm yng Nghwpan y Byd, gan sgorio hat-tric yn erbyn Seland Newydd. Ym 1969, aeth ar daith o amgylch Awstralasia, ond dim ond mewn un gêm y cymerodd ran oherwydd anaf. Enillodd dri chap prawf arall yn erbyn Seland Newydd ym 1971. Cafodd ei benodi'n gapten o dim Prydain Fawr yn 1972, a chwaraeodd ddwy gem brawf yn erbyn Ffrainc. Cynhaliwyd Cwpan y Byd yr un flwyddyn, ac ef oedd capten y tim ddaeth yn bencampwyr y byd. Sgoriodd gais ym mhob un o'r pedair gêm. Sgoriodd Sullivan o bosib y cais enwocaf yn hanes Cwpan y Byd pan redodd hyd y cae i sgorio cais i ddod yn gyfartal ag Awstralia (10-10) yng Ngêm Derfynol Cwpan y Byd.

Daeth ei yrfa gyda thim Prydain Fawr i ben yn 1973 gyda thair gem brawf yn erbyn Awstralia. At ei gilydd, chwaraeodd Sullivan i dim Prydain Fawr 17 o weithiau.

Arweiniodd Sullivan dim Cymru ym mhob un o'u pedair gem yng Nghwpan y Byd Rygbi'r Gynghrair 1975, gan sgorio cais yn y fuddugoliaeth dros Loegr yn yr ail gêm. Gorffennodd Cymru yn drydydd o'r pum tim oedd yn cystadlu.

Bu farw Sullivan o ganser yn 1985 pan oedd yn 42 oed. Cymaint oedd y parch tuag ato yn ninas Hull fel bod rhan o'r A63, y brif ffordd i mewn i'r ddinas rhwng y Pont Humber a chanol y ddinas wedi'i henwi yn Clive Sullivan Way er anrhydedd iddo.

Cyfeiriadau golygu

  1. Spracklen, Karl (2001). 'Black Pearl, Black Diamonds' Exploring racial identities in rugby league. Routledge. ISBN 978-0-415-24629-3.