Cloisonnisme
Arddull peintio ôl-argraffiadol oedd Cloisonnisme (weithiau Cloisonnisiaeth[1] yn Gymraeg). Yn nodweddiadol roedd yn defnyddio patrwm dau-ddimensiwn, yn cynnwys clytiau mawr o liw llachar wedi'u hamgylchynu o fewn amlinelliadau du, trwchus yn y modd o waith enamel cloisonné yr Oesoedd Canol neu wydr lliw.
Enghraifft o'r canlynol | symudiad celf |
---|---|
Math | Ôl-argraffiaeth |
Dechreuodd artistiaid fel Émile Bernard, Louis Anquetin, Paul Gauguin a Paul Sérusier beintio yn yr arddull hon yn y 1880au. Defnyddiwyd y gair "Cloisonnisme" am y tro cyntaf ym 1888 gan y beirniad celf Edouard Dujardin ar achlysur yr arddangosfa Salon des Indépendants.
Oriel
golygu-
Avenue de Clichy, cinq heures du soir (1887) gan Louis Anquetin
-
Le Pardon: Les Bretonnes dans la prairie (1888) gan Émile Bernard
-
La Vision après le Sermon (La Lutte de Jacob avec l'Ange) (1888) gan Paul Gauguin
-
L'averse (1893) gan Paul Sérusier
Cyfeiriadau
golygu- ↑ White, Mark; Jones, Dafydd (2011), Y Geiriadur Celf, Dalen, p. 8, ISBN 978-1-906587-10-9
Dolen allanol
golygu- (Saesneg) Visual-Arts-Cork: Cloisonnism