Clwb Rygbi Caernarfon

tîm rygbi'r undeb yng Nghymru
 Rhybudd! Mae angen cywiro iaith yr erthygl hon.
Beth am fynd ati i'w chywiro?

Dyma restr o erthyglau i'w cywiro: Tudalennau â phroblemau ieithyddol.

Lleolir Clwb Rygbi Caernarfon ar Y Morfa, Lôn Parc Caernarfon.

Hanes y Clwb

golygu

Sefydlwyd y clwb nôl ar y chweched o Dachwedd, 1973 o dan yr enw “Caernarvon & District Rugby Union Football Club”. Des Treen oedd yn arwain y rygbi yn yr ysgol uwchradd leol sef Ysgol Syr Hugh Owen. Yma yr oedd ymarferion a gemau yn cael eu chwarae a’r tîm cyntaf yn cystadlu yng Nghwpan Gogledd Cymru. Tyfodd y clwb a dechreuodd yr ail dîm yn 1975 a thrydedd yn 1977.

Yn 1974 cafodd y clwb ddefnydd o gaeau Coed Helen dros Yr Aber, Caernarfon. Ychwanegwyd goleuadau ar y caeau yn 1979, a gwelir ambell bolyn dal yn sefyll yno hyd heddiw. Agorwyd ty’r clwb a chlwb cymdeithasol y clwb yn nhref Caernarfon yn ardal y cei yn 1977. Dechreuwyd adran iau’r clwb yn 1981 o dan arweiniad Emrys Jones gyda thimau o dan 7 hyd at o dan 12. Mae’r adran iau yn parhau i dyfu gyda dros 200 o chwaraewyr cofestriedig bellach.

Y Morfa

golygu

Gyda gweledigaeth o gael caeau a chlwb ar yr run safle, yn 1980 arwyddwyd les ar dir Y Morfa ger Ysbyty Eryri. Derbyniwyd caniatad adeiladu ac erbyn 1983 roedd adeilad ystafell newid a storfa. Ail leolwyd ty’r clwb i'r Morfa yn y 1990au a gwerthwyr yr hen glwb i'r Cyngor yn 1993. Gyda grant sylweddol o £120,000 gan Gyngor Chwaraeon Cymru yn 1998/99 uwchraddiwyd y cyflysterau ar Y Morfa.

Ynghyd a’r cyflysterau newydd dechreuodd y clwb ennill ar y cae. Rhwng 1979 a 1987 enillodd timau’r clwb naill ai Cynghrair Gwynedd neu Ogledd Cymru bron pob blwyddyn yn ystod y cyfnod.

Derbyniwyd aelodaeth o Undeb Rygbi Cymru yn 1991 ac o ganlyniad dipyn mwyn o dicedi gemau rhyngwladol ar gael i aelodau’r clwb. Yr run adeg roedd rygbi yn datblygu mew manau eraill. Sefydlwyd timau ieuenctid 16-19 oed a hefyd tîm y GOGs yn 1993 ar gyfer y sawl oedd wedi ymddeol o chwarae i'r tî cyntaf a’r ail dîm.

Sefydlodd tîm rygbi merched yn 1998 gyda Keith Parry yn brif hyfforddwr. O’r cychwyn roeddent yn lwyddiant yn gyrru timau merched eraill y Gogledd a dod yn ail yn y gynghrair a chwpan Cymreig. Aeth Kate Jones ymlaen i fod yn chwaraewr cyntaf o’r clwb i ennill cap dros Gymru. Mae hyn wedi bod yn ysbrydiolaeth i nifer o ferched eraill o’r clwb I fynd ymlaen i chwarae i Gymru; Manon Williams, Jess Kavanagh, Teleri Davies dim ond i enwi y rhai.

Daeth llwyddiannau i chwaraewyr eraill y clwb; Cai Griffiths chwarae dros Gymru yn nhîmau o dan 16, 18 & 20 ac yna mynd ymlaen i chwarae yn broffesiynol i Gastell Nedd a’r Gweilch, Iolo Evans chwarae dros Gymru tîm o dan 20 a thîm saith pob ochr Cymru, Rhun Williams chwarae i Gymru tîm o dan 20 a Gleision Caerdydd, Morgan Williams tîm 7 pob ochr Cymru a Sgarlets. Mae nifer wedi mynd ymlaen i chwarae i dîm RGC.

Gyda’r nifer o aelodau a chwaraewyr yn tyfu, roedd rhaid adeiladu ystafelloedd newid ychwanegol ac ystafell ffitrwydd, daeth cegin newydd i'r clwb.

Gydag newidiadau yn yr Undeb Rygbi, sefydlwyd y clwb fel cwmni LTD yn 2018.

Timau presennol y clwb

golygu
  • Tim Cyntaf – Cynghrair Adran 1 Gogledd Cymru
    • Hyfforddwyr: Gareth Thirsk, Llion Owen, Mark Griffith & Carl – hyffroddi pob nos Fawrth a nos Iau

Ail dîm - 3ydd Cynghrair Adran Gogledd Cymru Hyfforddwyr: Paul Rowlands & Gareth Roberts – Hyfforddi pob nos Fawrth a nos Iau Ieuenctid Hyfforddwyr: Ieuan Jones, Carl Russell Owen, Dafydd Roberts, Rhys Evans – Hyfforddi nos Fawrth a nos Iau Merched – Cynghrair Cymru Hyfforddwyr: Keith Parry & Kate Jones – Hyfforddi nos Iau. Tim Genethod o dan 18 Hyfforddwr: Ceri Davies – Hyfforddi nos Iau O dan 16 Hyfforddwr: Richard Evans – Nos Fercher

O dan 15 Hyfforddwyr: Bari Jones, Gwil Jones a Gethin Jones – Hyfforddi nos Fawrth 

O dan 14 Hyfforddwyr:Keith Parry, Meirion Williams, David Hughes & David Jones Hyfforddi nos Fawrth. O dan 13 Hyfforddwyr: David Bracegirdle, Dylan Edwards a Mark Griffiths Hyfforddi nos Fawrth O dan 12 Hyfforddwyr: Rhys Alun a Mei Gwilym hyfforddi nos Wener. O dan 11 Hyfforddwyr: Laurence Smith a Gareth Harding hyfforddi nos Wener. O dan 10 Hyfforddwyr: Mark Herbert, Dylan Green, Bleddyn Williams & Rob Hall Hyfforddi nos Wener. O dan 9 Hyfforddwyr: Ceri Parry, Mei Gwilym a Meirion Williams (Caio Parry a Tomos Williams) hyfforddi nos Wener. O dan 8 Hyfforddwyr: Rhys Evans a Gwyndaf Rowlands hyfforddi nos Wener. O dan 7 Hyfforddwyr: Rhys ap Gwilym a Keith Parry hyfforddi nos Wener. Llywydd: Eifion Harding Cadeirydd: Alun Roberts Ysgrifennydd: Ann Hopcyn Trysorydd: Eifion Jones Capten presennol y tîm cyntaf yw Carwyn Roberts (ugeinfed capten y clwb ers i’r tîm sefydlu’n 1973).Lliwiau’r clwb: Marwn ac aur – rhain oedd lliwiau rhata i brynu ar gyfer crysau rygbi nôl yn y 1970au.

==Dolenni allanol==