Clych Adgof - penodau yn hanes fy addysg

hunangofiant o blentyndod Syr Owen Morgan Edwards

Mae "Clych Adgof - penodau yn hanes fy addysg" yn llyfr gan Owen Morgan Edwards. [1] Cyhoeddwyd y llyfr ym 1906, gan Gwmni Y Cyhoeddwyr Cymraeg (Cyf) yn Wasg Swyddfa Cymru, Caernarfon. Mae'r llyfr wedi ei ddarlunio gan Samuel Maurice Jones. [2]

Clych Adgof - penodau yn hanes fy addysg
Llun wynebddalen
Enghraifft o'r canlynolgwaith ysgrifenedig Edit this on Wikidata
AwdurOwen Morgan Edwards Edit this on Wikidata
GwladCymru Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi1906 Edit this on Wikidata
Tudalennau112 Edit this on Wikidata
Genrehunangofiant Edit this on Wikidata

Cefndir

golygu

Mae'r gyfrol wedi ei selio'n fras ar hanes O. M. Edwards [3] o'i fabandod hyd ddiwedd ei gyfnod fel myfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth. Un o'r pethau mae O M Edwards yn cael ei gofio amdano'n bennaf yw ei ymgyrch dros ddefnyddio'r Gymraeg yn ysgolion Cymru ac i gael gwared â defnydd o'r Welsh Not. Yng Nghlych Adgof mae Edwards yn adrodd ei brofiad fel bachgen ysgol o fod dan ddisgyblaeth y Welsh Not

Cynnwys

golygu

Ar ôl rhagymadrodd gan yr awdur sy'n egluro pam ei fod wedi ysgrifennu'r llyfr daw'r penodau canlynol.

  • YSGOL Y Llan.
    • I. Cartref, a chymdeithion cyntaf. Yr Ysgol Sul; y llythrennau; profedigaeth. Paham na anfonwch y bachgen i'r ysgol? Ysgol y Llan; yr athrawes; dysgu i mi fihafio; tocyn am fy ngwddf: cashau gwybodaeth.
    • II. Cam y diniwed; ysbryd Chwyldroad.
    • III. Dihoeni; crwydro ar oriau'r ysgol; twymyn; hedd y mynyddoedd; yr athraw newydd; adfyfyrion
  • Hen Fethodist.
    Hen gloc du hir fy nghartref; ei fuchedd, ei daith wyllt. Ardal heddychlon a theulu mwyn ; hen lety proffwydi. Pregethwyr y Deheudir, — Thomas Richards Abergwaun, Thomas John Cilgeran, Ebenezer Richards Tŵr Gwyn. John Evans New Inn yn stopio'r cloc. Sefyll, a mynd o chwith.
  • Llyfr y Seiat.
    Lle'r seiat yn hanes Cymru. Un seiat, a'i chofnodydd. 1739-1791, cyfnod yr efengylwyr. Howel Harris a Daniel Rowland. 1791-1804, cyfnod y crwydro, yr emynau’n gweddnewid. Trallodion y pregethwr Ifan Ffowc a'r gweddïwr Niclas Wmffre. 1804-1872, cyfnod yr hen gapel. Y blaenoriaid, yr athrawon. Yr Hen Barch. Y pregethwyr. Cyngor yr hen ymladdwr. Llais y werin. Rhoi'r tariannau i lawr.
  • Fy Nhad.
    Noson marw fy nhad. Bywyd dedwydd. Plant direidus. Cyfarfod Ebenezer Morris. Yr hedd a'r dymestl.
  • Y Bala.
    Lle tawel a phur. Y ffyrdd ato. Green y Bala a'r hen sasiynau. Y Stryd Fawr. Michael D. Jones. Dr. Hughes. Cofgolofn Charles. Llyn Tegid. "Cloch y Bala." Llanecil. Bodiwan. Ffarwel.
  • Aberystwyth.
    Culni cred. Rhodfa'r .Alòr. Tralia'r Deheuwr. Crwth y Sosin. Silvan Evans a'r Dosparth Cymraeg-. Athrawon campus.
  • Rhydychen.
    Uchelgais eithafol a balchder, — meddwl am "basio'r Fach. Rhydychen, Coleg Balliol, bechgyn, a brain. Jowett. Brecwest, a dŵr oer beirniadaeth. "He found the young ass, and sat upon him." Brad y Fach. Bendith bywyd cof gwan.
  • Dyrniad o Beiswyn.
    Dadblygu a disgyblu. Cydymdeimlo a dirmygu. Ysmalio, — y da a'r drwg. Y cospwr a'r dysgwr. Urddas ac ymddiheurad. Gofal am yr olaf.

Dolenni allanol

golygu

Cyfeiriadau

golygu