Coeden y Flwyddyn (Deyrnas Unedig)

gwobr am goed arbennig yn y Deyrnas Unedig

Cynhelir cystadleuaeth Coeden y Flwyddyn yn y Deyrnas Unedig bob hydref gan Coed Cadw, elusen cadwraeth. Bob blwyddyn dewisir rhestr fer o o goed enwebedig gan banel o arbennigwyr sy'n mynd ymlaen i bleidlais gyhoeddus ar gyfer pob un o wledydd Prydain. Mae'r panel wedyn yn dewis un o'r rheiny i fod yn Goeden y Flwyddyn a bydd yn cael ei enwebu ar gyfer cystadlaeuaeth Coeden Ewropeaidd y Flwyddyn y flwyddyn ganlynol. Cynhelir y gystadleuaeth yn flynyddol ers 2014.

Derwen Gilwell Oak, Coeden y Flwyddyn, Lloegr a Gwledydd Prydain 2017
Sycamorwydden y Bwlch, Coeden y Flwyddyn, Lloegr 2016
Coeden gellyg Cubbington Pear, Coeden y Flwyddyn, Lloegr 2015
Y Dderwen Fawr, Coeden y Flwyddyn, Lloegr 2014
Derwen y Swffragét, Coeden y Flwyddyn, Yr Alban 2015

Mae cystadleuaeth Coeden Ewropeaidd y Flwyddyn wedi ei gynnal ers 2011 a mae'n dewis coeden o bob gwlad sy'n cymryd rhan (13 erbyn hyn) drwy bleidlais gyhoeddus. Fe'i ysbrydolwyd gan gystadleuaeth genedlaethol a gynhaliwyd yn y Weriniaeth Tsiec. Mae rhan fwyaf o wledydd yn cynnal pleidlais genedlaethol i ddewis ei cynnig bob blwyddyn.[1] Enwebir y coed yn y flwyddyn cyn gwobrwyo'r enillydd. Ni gystadlodd y Deyrnas Unedig hyd 2013 pan enwebwyd Derwen Niel Gow o'r Alban a Derwen Adwy'r Meirwon o Gymru ar gyfer gwobr 2014. Daeth y coed yma yn seithfed a nawfed allan o'r 10 cynnig y flwyddyn honno.[2] Y flwyddyn ganlynol cymerodd Coed Cadw, yr elusen gadwraeth, gyfrifoldeb am enwebu cynigion Prydeinig i'r gystadleuaeth. Cychwynnodd gystadleuaethau cenedlaethol yn Lloegr, Cymru a'r Alba.[3] Enwebwyd enillwyr y cystadleuaethau yma i wobrau Coeden Ewropeaidd y Flwyddyn ar gyfer 2015.[4] yn 2015, ehangwyd y gwobrau Prydeinig i gynnwys Gogledd Iwerddon. Amrywiodd Coed Cadw y fformat yn 2016 gan gynnwys rownd ychwanegol i ddewis un coeden ar gyfer gwledydd Prydain i gyd. Cafodd pob enillydd cenedlaethol eu henwebu i'r gystadleuaeth Ewropeaidd n. O 2017 ymlaen, dim ond un enillydd o wledydd Prydain bydd yn cael ei enwebu i'r gwobrau Ewropeaidd.[5]

Fformat

golygu

Cynhelir y pedwar cystadleuaeth genedlaethol ym mis Medi a Hydref a dewisir yr enillydd drwy bleidlais gyhoeddus ar wefan Coed Cadw. Gellir enwebu coeden gan unrhyw unigolyn neu gorff erbyn mis Awst a dewisir rhestr fer gan banel o arbennigwyr annibynnol i fynd ymlaen i bleidlais gyhoeddus. Mae pob enillydd cenedlaethol yn derbyn grant o £1,000 gan Loteri Côd-post y Bobl i'w ddefnyddio ar gyfer unrhyw bwrpas yn ymwneud a'r goeden - gallai hyn amrywio o archwiliad i brofion cyflwyr, gwaith adfer, plac, arwyddion neu ddathliad.[3] Mae rhai o'r enwebiadau hefyd yn derbyn grantiau o £500.[6][7] Yn dilyn y bleidlais gyhoeddus dewisir un o'r pedwar coeden gan banel o arbennigwyr i ddod yn Goeden y Flwyddyn, Gwledydd Prydain a fe'i enwebir fel cystadleuydd Prydeinig ar gyfer y gwobrau Ewropeaidd, lle mae pleidleisio yn cymryd lle drwy Ionawr a Chwefror y flwyddyn ganlynol.[7][8] Yn 2018 newidiwyd y fformat fel fod y dewis Prydeinig yn cael ei ddewis gan bleidlais gyhoeddus mewn cyd-weithrediad a rhaglen The One Show y BBC gyda'r enillydd i'w gyhoeddi ym mis Hydref.[7]

Canlyniadau

golygu

Coeden y Flwyddyn, Gwledydd Prydain

golygu
  • 2017 Derwen Gilwell[9]
  • 2016 Derwen Brimmon[6]

Coeden y Flwyddyn, Lloegr

golygu
  • 2018 Coeden Nelli[7]
  • 2017 Derw Gilwell[9]
  • 2016 Sycamorwydden y Bwlch[6]
  • 2015 Coeden Gellyg Cubbington[10]
  • 2014 Prif Dderwen[11]

Coeden y Flwyddyn, Yr Alban

golygu
  • 2018 Coeden Netty[7]
  • 2017 Coeden Fawr, Kirkwall[9]
  • 2016 Coeden Ding Dong[6]
  • 2015 Derwen y Swffragét[12]
  • 2014 Coeden y Wraig[13]
  • 2013 Cyn y gystadleuaeth ond enwebwyd Derw Niel Gow ar gyfer Coeden Ewropeaidd y Flwyddyn 2014[2]

Coeden y Flwyddyn, Cymru

golygu

Coeden y Flwyddyn, Gogledd Iwerddon

golygu
  • 2018 Secwoia Mawr Aml-foncyff, Castlewellan[7]
  • 2017 Coeden Tŷ Erskine[9]
  • 2016 Derwen Holm, Parc Rostrevor]][6]
  • 2015 Coeden Heddwch Parc Woodvale[16]

Cyfeiriadau

golygu
  1. "About the contest". European Tree of the Year. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-10-06. Cyrchwyd 30 Medi 2018.
  2. 2.0 2.1 2.2 "European Tree of the Year 2014". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-10-06. Cyrchwyd 30 Medi 2018.
  3. 3.0 3.1 Stephenson, Natalie (19 June 2018). "Help us find the nation's Tree of the Year 2018". Woodland Trust. Cyrchwyd 30 Medi 2018.[dolen farw]
  4. "European Tree of the Year 2015". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-10-06. Cyrchwyd 30 Medi 2018.
  5. "Who are the winners?". European Tree of the Year. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-10-06. Cyrchwyd 30 Medi 2018.
  6. 6.0 6.1 6.2 6.3 6.4 6.5 Hickman, Chris (18 Rhagfyr 2016). "Our Tree of the Year winners are revealed on Channel 4". Woodland Trust. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-11-07. Cyrchwyd 30 Medi 2018.
  7. 7.0 7.1 7.2 7.3 7.4 7.5 7.6 "Tree of Year 2018". Woodland Trust. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-12-01. Cyrchwyd 30 Medi 2018.
  8. "European Tree of the Year 2018 - Where is it rooted? - EUROPARC Federation". EUROPARC Federation. 14 Chwefror 2018. Cyrchwyd 30 Medi 2018.
  9. 9.0 9.1 9.2 9.3 9.4 "Britain's Tree of the Year for 2017 unveiled". Countryfile (yn Saesneg). 5 Rhagfyr 2017. Cyrchwyd 30 Medi 2018.[dolen farw]
  10. "England's Tree of the Year, Cubbington pear, to be cut down for HS2". The Telegraph. 9 Tachwedd 2015. Cyrchwyd 30 Medi 2018.
  11. Barkham, Patrick (14 Tachwedd 2014). "Major oak in Sherwood Forest voted England's tree of the year". The Guardian (yn Saesneg). Cyrchwyd 30 Medi 2018.
  12. Gillett, Karrie (28 Hydref 2015). "Century-old Glasgow oak tree hailed as Scottish 'tree of the year'". Scotland Now (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-11-07. Cyrchwyd 30 Medi 2018.
  13. "Scottish Tree of the Year crowned". BBC News. 30 Hydref 2014. Cyrchwyd 30 Medi 2018.
  14. "Saved oak wins Tree of the Year award". BBC News. 9 Tachwedd 2015. Cyrchwyd 30 Medi 2018.
  15. "Fallen pine is Wales' tree of year". BBC News. 23 Tachwedd 2014. Cyrchwyd 30 Medi 2018.
  16. Smith, Ryan (9 Tachwedd 2015). "Game of Thrones loses out as this North Belfast tree is named Northern Ireland 'Tree of the Year'". Belfast Live. Cyrchwyd 30 Medi 2018.