Mae colig babi, sydd hefyd yn cael ei adnabod fel colig babanaidd, yn cael ei ddiffinio fel pyliau o grïo am fwy na thair awr y dydd, am fwy na thair wythnos mewn plentyn sydd fel arall yn iach. Mae'r crïo yn aml yn digwydd gyda'r nos. Nid yw fel arfer yn achosi problemau tymor hir.[1] Gall y crïo beri rhwystredigaeth i'r rhieni, iselder yn dilyn genedigaeth, ymweliadau aml a'r meddyg, a cham-drin plant.[2]

Colig babi
Mathcolig Edit this on Wikidata

Mae achos colig yn anhysbys. Cred rhai ei fod yn cael ei achosi gan anesmwythder gastro-goluddol, fel crampio coluddol.[3] Mae diagnosis yn galw am sichrau nad oes achosion eraill. Mae twymyn, diffyg gweithgaredd, neu abdomen chwyddedig yn symptomau fyddai'n peri gofid. Llai na 5% o blant sy'n gor-grïo sydd a chlefyd organig.

Mae triniaeth yn geidwadol ar y cyfan, gydag ychydig o ran, os o gwbl, i feddygyniaerthau neu therapiau amgen.[4] Gallai cymorth ychwanegol i rieni fod yn ddefnyddiol. Prin yw'r dystiolaeth sy'n cefnogi'r defnydd o rai probiotigau penodol i'r babi a deiet alergen-isel gan y fam i'r rhai sy'n cael eu bwydo o'r fron. Gallai fformiwla wedi ei hydroleiddio fod yn ddefnyddiol i'r rhai sy'n cael eu bwydo a photel.

Mae colic yn effeithio ar 10–40% o blant. Mae fwyaf cyffredin pan fyddo'r plentyn yn chwe wythnos oed ac fel arfer yn dod i ben cyn iddynt gyrraedd chwe mis. Anaml iawn y bydd yn parhau hyd at flwydd oed.[5] Mae yr un mor gyffredin mewn bechgyn a merched. Ceir y disgrifiad meddygol cynharaf o'r broblem yn 1954.[6]

Cyfeiriadau golygu

  1. Grimes, edited by Frank Domino, Robert A. Baldor, Jeremy Golding, Jill A. (2014). The 5-minute clinical consult premium (arg. 23rd). St. Louis: Wolters Kluwer Health. t. 251. ISBN 9781451192155. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-02-25. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)CS1 maint: extra text: authors list (link)CS1 maint: Extra text: authors list (link)
  2. Johnson, JD; Cocker, K; Chang, E (1 October 2015). "Infantile Colic: Recognition and Treatment.". American Family Physician 92 (7): 577–82. PMID 26447441. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 26 August 2017. http://www.aafp.org/afp/2015/1001/p577.html. Adalwyd 22 July 2017.
  3. Shamir, Raanan; St James-Roberts, Ian; Di Lorenzo, Carlo; Burns, Alan J.; Thapar, Nikhil; Indrio, Flavia; Riezzo, Giuseppe; Raimondi, Francesco et al. (2013-12-01). "Infant crying, colic, and gastrointestinal discomfort in early childhood: a review of the evidence and most plausible mechanisms". Journal of Pediatric Gastroenterology and Nutrition 57 Suppl 1: S1–45. doi:10.1097/MPG.0b013e3182a154ff. ISSN 1536-4801. PMID 24356023.
  4. Biagioli, E; Tarasco, V; Lingua, C; Moja, L; Savino, F (16 September 2016). "Pain-relieving agents for infantile colic.". The Cochrane database of systematic reviews 9: CD009999. doi:10.1002/14651858.CD009999.pub2. PMID 27631535.
  5. Barr, RG (2002). "Changing our understanding of infant colic". Archives of pediatrics & adolescent medicine 156 (12): 1172–4. doi:10.1001/archpedi.156.12.1172. PMID 12444822.
  6. Long, Tony (2006). Excessive Crying in Infancy (yn Saesneg). John Wiley & Sons. t. 5. ISBN 9780470031711. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-10-18. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)