Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru
archifdy cenedlaethol yn Aberystwyth
Mae Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru yn gorff a ariennir gan Lywodraeth Cymru, ac sydd wedi'i leoli yn Aberystwyth, Ceredigion. Fe'i sefydlwyd yn 1908 gyda'r amcan o warchod a chadw Rhestr Henebion Cenedlaethol Cymru.
![]() | |
Data cyffredinol | |
---|---|
Enghraifft o'r canlynol |
asiantaeth lywodraethol, archifdy cenedlaethol ![]() |
Dechrau/Sefydlu |
1908 ![]() |
Lleoliad |
Aberystwyth ![]() |
Lleoliad yr archif |
Llyfrgell Genedlaethol Cymru ![]() |
Pennaeth y sefydliad |
Christopher Catling ![]() |
Prif weithredwr |
Christopher Catling ![]() |
![]() | |
Gweithredwr |
Llywodraeth Cymru ![]() |
Aelod o'r canlynol |
Digital Preservation Coalition ![]() |
Pencadlys |
Llyfrgell Genedlaethol Cymru ![]() |
Gwladwriaeth |
y Deyrnas Unedig ![]() |
Rhanbarth |
Ceredigion ![]() |
Gwefan |
http://www.rcahmw.gov.uk, https://cbhc.gov.uk/ ![]() |
Mae eu gwaith yn cynnwys y meysydd archaeoleg, pensaernïaeth a diwylliant Cymru, a darparu gwybodaeth gyhoeddus drwy ei archifau a'u cyhoeddiadau helaeth. Mae eu harbenigwyr, hefyd yn cynnig cyngor i'r cyhoedd. Mae eu cronfa ddata'n cynnwys cynlluniau, ffotograffau a disgrifiadau o dros 80,000 o safleoedd ac adeiladau ac olion ar fôr ac ar dir. Mae gan y Comisiwn dros 1.5 miliwn o ffotograffau, sy'n ei wneud yr archif mwyaf o'i fath yng Nghymru.[1]
Mae'r corff yn rhannu ychydig o'u gwybodaeth drwy eu gwefan "Coflein".
CyfeiriadauGolygu
- ↑ "Gwefan Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru; adalwyd 14 Ebrill 2012". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-07-31. Cyrchwyd 2012-04-14.