Conakry
Prifddinas a dinas fwyaf Gini yng Ngorllewin Affrica yw Conakry, hefyd Konakry. Mae hefyd yn borthladd pwysig. Roedd y boblogaeth yn 2002 tua 2,000,000.
Math | dinas |
---|---|
Poblogaeth | 1,667,864 |
Cylchfa amser | GMT |
Gefeilldref/i | Freetown, Cleveland, Dakar |
Daearyddiaeth | |
Sir | Conakry Region |
Gwlad | Gini |
Arwynebedd | 450 km² |
Uwch y môr | 13 metr |
Gerllaw | Cefnfor yr Iwerydd |
Yn ffinio gyda | Kindia Region, Dubréka Prefecture |
Cyfesurynnau | 9.5092°N 13.7122°W |
GN-C | |
Datblygodd Conakry ar ynys Tumbo, ger pen draw penrhyn Kalum. Mae cysylltiad rhwng yr ynys a'r penrhyn, ac mae'r ddinas bellach wedi ehangu i'r penrhyn. Sefydlwyd y ddinas yn swyddogol pan ildiodd y Deyrnas Unedig yr ynys i Ffrainc yn 1887.
Tyfodd yr harbwr i fod yn elfen bwysig yn economi'r wlad, yn allforio alwminiwm a bananas yn bennaf.