Copa del Rey
Cystadleuaeth cwpan bêl-droed a gynhelir yn flynyddol rhwng timau pêl-droed yn Sbaen yw'r Copa del Rey (Cymraeg: Cwpan y Brenin). Enw llawn y gwpan yw Campeonato de España – Copa de Su Majestad el Rey (Penampwriaeth Sbaen – Cwpan Ei Fawrhydi y Brenin).
Sefydlwyd y gystadleuaeth yn 1903. Y clwb mwyaf llwyddiannus yn y gystadleuaeth yw F.C. Barcelona, sydd wedi ennill y gwpan 27 gwaith.