Corn Ffrengig
Mae'r corn Ffrengig (sydd ers y 1930au yn cael ei adnabod mewn rhai cylchoedd cerddoriaeth proffesiynol fel y "corn") yn offeryn pres sydd wedi'i wneud o diwbiau wedi'u lapio mewn troad gyda chloch lydan. Y corn dwbl yn F/B♭ (sydd, yn dechnegol, yn amrywiad o gorn Almaenig) yw'r corn a ddefnyddir amlaf gan chwaraewyr mewn cerddorfeydd a bandiau proffesiynol. Gelwir cerddor sy'n chwarae corn Ffrengig yn chwaraewr corn.
Enghraifft o'r canlynol | math o offeryn cerdd |
---|---|
Math | valve horns, horn |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae'r traw yn cael ei reoli drwy gyfuniad o'r ffactorau canlynol: cyflymder yr aer sy'n chwythu trwy'r offeryn (a reolir gan ysgyfaint a diaffram thorasig y chwaraewr); diamedr a thensiwn agorfa'r gwefusau yn y geg (gan gyhyrau gwefus y chwaraewr — yr embouchure); hefyd, mewn corn Ffrengig modern, rheolaeth y falfiau ar y llaw chwith, sy'n mynd â'r aer i rannau ychwanegol o'r tiwbiau. Mae gan y rhan fwyaf o gyrn falfiau cylchdro a weithredir gyda lifer, ond mae rhai, yn enwedig cyrn hŷn, yn defnyddio falfiau piston (tebyg i utgorn) ac mae'r corn Fienna yn falfiau piston dwbl, neu bwmpenfalfiau. Mae cyfeiriad y gloch tuag yn ôl yn ymwneud â'r dymuniad i greu sain mwy gwannaidd mewn cyngherddau, yn wahanol i ansawdd mwy treiddgar y trwmped. Gelwir corn heb falfiau yn gorn naturiol, yn newid traw ar hyd harmonïau naturiol yr offeryn (yn debyg i helgorn). Gall traw gael ei reoli hefyd gan safle'r llaw yn y gloch, gan leihau diamedr y gloch. Gellir codi neu ostwng traw unrhyw nodyn yn hawdd trwy addasu safle'r llaw yn y gloch.[1]
Mae tair falf yn rheoli llif yr aer yn y corn sengl, sy'n cael ei diwnio i F neu weithiau B♭. Mae gan y corn dwbl mwy cyffredin bedwerydd falf sbarduno, wedi'i reoli fel arfer gan y bawd, sy'n cyfeirio'r aer i un set o diwbiau wedi'u tiwnio i F neu un arall wedi ei diwnio i B♭ sy'n ymestyn ystod y corn i dros bedair wythfed ac sy'n gallu cyfuno â ffliwtiau neu clarinets mewn ensemble chwythbrennau. Mae gan gyrn triphlyg bum falf, wedi'u tiwnio fel arfer i F, B♭, a descant E♭ neu F. Mae yna hefyd gyrn dwbl gyda phum falf wedi'u tiwnio i B♭, descant E♭ neu F, a falf stopio, sydd yn hwyluso'r dechneg anodd a chymhleth o stopio dwylo[2], er bod y rhain yn brinnach. Mae dyblau desgant, sydd fel arfer yn darparu canghennau B♭ ac alto F, hefyd yn gyffredin.
Mae elfen hanfodol wrth chwarae'r corn yw ymwneud â'r cetyn ceg. Y rhan fwyaf o'r amser, gosodir y cetyn ceg yng nghanol y gwefusau, ond, oherwydd gwahaniaethau yn ffurfiant gwefusau a dannedd chwaraewyr, mae rhai yn tueddu i chwarae gyda'r cetyn ceg ychydig oddi ar y canol.[3] Er bod union leoliad y cetyn ceg o un ochr i'r llall yn amrywio ar gyfer y rhan fwyaf o chwaraewyr corn, mae lleoliad uchder y geg yn gyffredinol ddwy ran o dair ar y wefus uchaf a thraean ar y wefus isaf.[3] Wrth chwarae nodau uwch, mae mwyafrif y chwaraewyr yn rhoi ychydig bach o bwysau ychwanegol ar y gwefusau gan ddefnyddio'r cetyn ceg. Fodd bynnag, mae hyn yn annymunol o safbwynt dygnwch a thôn: mae pwysau gormodol ar y geg yn golygu bod y sŵn corn yn cael ei orfodi ac yn galed, a'i fod yn lleihau stamina'r chwaraewr oherwydd y llif gwaed cyfyngedig i'r gwefusau a'r cyhyrau gwefus.[3]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Whitener, Scott and Cathy L. (1990). A complete guide to brass : instruments and pedagogy. New York: Schirmer Books. tt. 40, 44. ISBN 978-0028728612. OCLC 19128016.
- ↑ Pope, Ken. "Alexander 107 Descant w/Stopping Valve - $7800". Pope Instrument Repair (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-02-22. Cyrchwyd 2018-02-22.
- ↑ 3.0 3.1 3.2 Farkas, Philip (1956). The art of French horn playing: a treatise on the problems and techniques of French Horn playing …. Evanston, Il.: Summy-Birchard. tt. 6, 21, 65. ISBN 978-0874870213. OCLC 5587694.