Coron y pab
Penwisg a wisgid gan bab yr Eglwys Gatholig Rufeinig o'r 8g i'r 20g yw coron y pab neu'r goron driphlyg. Roedd ganddi dair rhes i gynrychioli tair swyddogaeth y pab yn Esgob Rhufain, Patriarch y Gorllewin, ac arweinydd Taleithiau'r Babaeth ac yn ddiweddarach Dinas y Fatican. Pawl VI oedd y pab olaf i wisgo'r goron driphlyg. Arddangosir y goron ar faner Dinas y Fatican ac arfbais y Babeth.[1]
Math o gyfrwng | religious symbol |
---|---|
Math | gwisg eglwysig, coron frenhinol, meitr, tiara |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Frank K. Flinn, Encyclopedia of Catholicism (Efrog Newydd: Facts On File, 2007), t. 603.