Spider-Man
(Ailgyfeiriad o Corryn-Dyn)
Archarwr ffuglennol sy'n ymddangos mewn llyfrau comig Americanaidd a gyhoeddwyd gan Marvel Comics yw Spider-Man. Fe'i crëwyd gan yr awdur-olygydd Stan Lee a'r arlunydd Steve Ditko. Mae'r cymeriad wedi ymddangos mewn llyfrau comig, sioeau teledu, ffilmiau, gemau fideo, a llyfrau. Ymddangosodd Spider-Man am y tro cyntaf yn y llyfr comig blodeugerdd Amazing Fantasy rhif 15 (Awst 1962).
Enghraifft o'r canlynol | cymeriad mewn comic, mwtad ![]() |
---|---|
Crëwr | Stan Lee, Steve Ditko ![]() |
Dechrau/Sefydlu | Awst 1962 ![]() |
Lleoliad cyhoeddi | Unol Daleithiau America ![]() |
Aelod o'r canlynol | Avengers ![]() |
Gwefan | http://www.marvel.com/comics/Spider-Man ![]() |
![]() |
Ym myd ffuglennol Spider-Man ei hunaniaeth go iawn yw Peter Parker (neu Peter Benjamin Parker), er mai Miles Morales yw ef mewn rhai ffilmiau diweddarach, fel y ffilmiau animeiddiedig.