Costau byw
Enw ar y costau ariannol sydd angen er mwyn cynnal rhyw safon byw benodol yw costau byw. Fel arfer, cyfrifir costau byw yn nhermau costau cyfartalog o swp o nwyddau a gwasanaethau a ystyrir yn angenrheidiol i grŵp neilltuol o bobl, er enghraifft yr hyn sydd angen i fyw'n iach neu i gynnal teulu mewn ardal benodol, neu'r safon byw isaf ar gyfer yr incwm cyfartalog.
Mae mesur costau byw yn bwysig er mwyn i'r llywodraeth bennu cymorth ariannol i bobl dlawd, budd-daliadau yswiriant cymdeithasol, lwfans teulu, gollyngiadau treth, ac isafsymiau cyflog.[1]
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) Cost of living. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 8 Tachwedd 2022.