Coup d'état Gini (2021)
Dymchwelwyd llywodraeth yr Arlywydd Alpha Condé gan luoedd arfog Gini mewn coup d'état ar 5 Medi 2021. Y bore hwnnw, yn y brifddinas Conakry, cafodd Palas Arlywyddol Sekhoutoureah ei amgylchynu gan fiwtiniwyr. Wedi brwydr saethu rhwng y gwrthryfelwyr a'r lluoedd a oedd yn ffyddlon i'r arlywydd, cafodd Condé ei arestio. Datganodd y swyddog lluoedd arbennig Mamady Doumbouya bod y llywodraeth wedi ei ddymchwel, y cyfansoddiad wedi ei ddirymu, a ffiniau'r wlad wedi eu cau. Condemniwyd y coup gan nifer o lywodraethau eraill a sefydliadau rhyngwladol, ond bu nifer o bobl Gini yn croesawu'r newid grym.
Enghraifft o'r canlynol | coup d'état |
---|---|
Dyddiad | 5 Medi 2021 |
Lladdwyd | 0 |
Lleoliad | Conakry |
Gwladwriaeth | Gini |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Etholwyd Condé yn Arlywydd Gini yn 2010, a chafodd ei ail-ethol yn 2015 ac yn 2020. Yn ystod y cyfnod hwn, tyfodd economi'r wlad o ganlyniad i echdynnu adnoddau naturiol, yn bennaf cloddio bocsit, ond ni chafodd hyn fawr o effaith ar sefyllfa ariannol trwch y boblogaeth. Yn 2019–21, yn sgil ymgais lwyddiannus Condé i newid y cyfansoddiad er mwyn ei alluogi i ymgyrchu am drydydd dymor yn y swydd, ysgogwyd protestiadau a therfysgoedd ar draws Gini, ac ymateb llawdrwm gan yr heddlu a'r llywodraeth, a bu farw rhwng 50 a 100 o bobl. Cafodd gwleidyddion o bleidiau eraill eu harestio, a bu farw rhai ohonynt yn y ddalfa. Cynyddodd prisiau bwyd a nwyddau eraill, ac yn Awst 2021 cyhoeddodd llywodraeth Condé y byddai'n codi trethi, cwtogi ar gyllido'r heddlu a'r lluoedd arfog, a rhoi mwy o arian i swyddfa'r Arlywydd ac i'r Cynulliad Cenedlaethol.
Yn sgil y coup, cynyddodd prisiau bocsit i'w lefel uchaf ers deng mlynedd. Ceisiodd Doumbouya dawelu'r diwydiant bocsit drwy gadw'r ffin ar y môr yn agored i alluogi allforion bocsit, ac i ryddhau'r sector cloddio rhag y cyrffyw a orfodwyd yn y nos.[1]
Ar Hydref 1, 2021, cymryodd Mamady Doumbouya ei lw fel llywydd dros dro.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) "Guinean soldiers seize control of West African nation in military coup", The Daily Telegraph (6 Medi 2021). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 9 Medi 2021.