Courmayeur
Tref a chymuned (comune) (comune) yng ngogledd-orllewin yr Eidal yw Courmayeur a leolir yn rhanbarth Dyffryn Aosta ger y ffin rhwng yr Eidal a Ffrainc. Saif wrth draed Mont Blanc, y mynydd uchaf yng ngorllewin Ewrop, yng nghadwyn yr Alpau Graiaidd, ar afon Dora Baltea. Mae Courmayeur yn rhannu gweinyddiaeth Mont Blanc gyda commune Saint-Gervais-les-Bains dros y ffin yn Ffrainc. Mae'n ganolfan mynydda, sgïo a gwyliau. Dros y ffin mae Chamonix.
Delwedd:Courmayeur.jpg, Courmayeur 001.JPG | |
![]() | |
Math | cymuned, tref ar y ffin ![]() |
---|---|
Prifddinas | Courmayeur ![]() |
Poblogaeth | 2,779 ![]() |
Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 ![]() |
Gefeilldref/i | Chamonix ![]() |
Nawddsant | Pantaleon ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Valle d'Aosta ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 209.61 km² ![]() |
Uwch y môr | 1,224 metr ![]() |
Yn ffinio gyda | La Salle, Aosta Valley, Morgex, Saint-Rhémy-en-Bosses, La Thuile, Pré-Saint-Didier, Bourg Saint Maurice, Chamonix, Les Contamines-Montjoie, Orsières, Saint-Gervais-les-Bains ![]() |
Cyfesurynnau | 45.7833°N 6.9667°E ![]() |
Cod post | 11013 ![]() |
Cadwyn fynydd | Graian Alps ![]() |
![]() | |
Lladdwyd y cemegydd a mynyddwr Humphrey Owen Jones a'i wraig wrth ddringo copa'r Aiguille Noire de Peuterey yn ardal Mont Blanc ar 15 Awst 1912. Syrthiodd y tywysydd ar Jones a syrthiodd y tri ohonynt 1,000 troedfedd i Rewlif Fresnay. Cawsant eu claddu yn Courmayeur. Enwyd copa gogleddol yr Aiguille Blanche de Peuterey yn La Pointe Jones er cof amdano.