Mae'r gair credyd yn disgrifio sefyllfa lle mae rhywun yn derbyn adnoddau, ond yn addo ad-dalu yn y dyfodol yn hytrach na thalu ar unwaith, gan greu dyled. Dyledwr yw'r sawl a dderbyniodd yr adnoddau, a chredydwr (neu echwynnwr) yw'r sawl a'u darparodd. Mae benthyciadau a morgeisi yn enghreifftiau cyffredin o fathau o gredyd.

Pan fo arian yn brin oherwydd y sefyllfa economaidd mae'n anodd cael credyd am fod banciau a sefydliadau eraill yn anfodlon ar y risg o golli eu harian : gall hyn arwain at ddirwasgiad, sydd yn ei dro yn ei gwneud yn anoddach byth i gael credyd.

Gweler hefyd golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am economeg neu arianneg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.