Croes Caeriw
Croes Geltaidd rhestredig Gradd I yng Nghaeriw
Mae Croes Caeriw yn groes Geltaidd sy'n gofeb i Maredudd fab Edwin, brenin Teyrnas Deheubarth. Saif ym mhentref Caeriw yn ne Sir Benfro, Cymru.
Enghraifft o'r canlynol | croes Geltaidd, croes eglwysig |
---|---|
Gwlad | Cymru |
Lleoliad | Caeriw |
Perchennog | Cadw |
Gweithredwr | Cadw |
Gwladwriaeth | Cymru |
Rhanbarth | Caeriw |
Gwefan | https://cadw.gov.wales/visit/places-to-visit/carew-cross |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Disgrifiad
golyguMae'r groes yn 13 troedfedd / 4m o daldra. Mae ysgrifen Lladin arni: ‘Croes Margiteut fab Etguin’. Credir fod y dyfyniad yma yn cyfeirio at Maredudd fab Edwin a fawrodd mewn brwydr yn 1035. Roedd Maredudd yn ddisgnydd y deddfwr a'r brenin Hywel Dda.[1]
Mae'r groes hefyd wedi'i cherfio a â phatrymau coeth o glymau a phlethi. Dyma enghraifft o ddylunio Celtaidd hynafol ar ei orau yn ôl Cadw. Mae'r groes hefyd wedi ysbrydoli logo y sefydliad hwnnw.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 "Croes Caeriw | Cadw". cadw.llyw.cymru. Cyrchwyd 2023-09-05.