Cronfa Nant-y-moch
Cronfa ddŵr yng Ngheredigion yw Cronfa Nant-y-moch, a leolir ychydig i'r gorllewin o gopa Pumlumon. Ffurfiwyd y gronfa, sydd ag arwynebedd o 66.8 cilometr sgwar, yn 1964 trwy adeiladu argae ar draws Afon Rheidol. Saif yr argae rhyw dair milltir i'r gogledd o bentref Ponterwyd ym mryniau Elenydd.
| |
Math |
cronfa ddŵr ![]() |
---|---|
| |
Daearyddiaeth | |
Sir |
Cymru ![]() |
Gwlad |
![]() |
Cyfesurynnau |
52.4681°N 3.8394°W ![]() |
Cadwyn fynydd |
Elenydd ![]() |
![]() | |
Enwir y gronfa ar ôl ffrwd fechan Nant-y-moch, un o ledneintiau Afon Rheidol, nant a roddodd ei enw i bentref bychan Nant-y-moch hefyd. Adeiladwyd y gronfa fel rhan o gynllun trydan dŵr Cwm Rheidol. Boddwyd pentref Nant-y-Moch a symudwyd y cyrff o'r fynwent i fynwent Ponterwyd. Symudwyd nifer o garneddi o Oes yr Haearn gan archaeolegwyr hefyd.