Cwestiwn rhethregol
Rhan ymadrodd ar ffurf cwestiwn a ofynnir heb ddisgwyl ateb ydy cwestiwn rhethregol. Yn aml caiff ei ddefnyddio er mwyn perswadio (e.e. "Pam fi?"). Mae cwestiynau rhethregol yn annog y gwrandawr i feddwl am yr ateb (sy'n amlwg yn aml) i'r cwestiwn. Pan fo siaradwr yn datgan, "Am faint o amser mae'n rhaid i ni oddef yr anghyfiawnder hwn?", ni ddisgwylir ateb ffurfiol. Yn hytrach, techneg arddull ydyw a ddefnyddir gan y siaradwr i atgyfnerthu neu wadu rhywbeth.