Cwnsler y Brenin
Mewn nifer o deyrnasoedd y Gymanwlad, cyfreithegwr a benodir trwy freinlythyrau yw Cwnsler y Brenin[1] (ôl-enw: CB[1] neu KC)[2] neu Cwnsler y Frenhines[1] (ôl-enw: CF[1] neu QC)[3] yn ystod teyrnasiad brenhines. Dywedir eu bod yn Gwnsleriaid ei Fawrhydi (neu ei Mawrhydi), dysgedig yn y Gyfraith.[1]
Mae Cwnsleriaid y Brenin yn gwisgo gŵn sidan. Dywedir bod un sy'n gwneud cais i fod yn Gwnsler y Brenin yn gwneud cais am sidan,[4][5] a bod un sy'n dod yn Gwnsler y Brenin yn cael sidan.[6] Gellir hefyd cyfeirio at Gwnsleriaid y Brenin fel sidanwyr.[7]
Mewn gwledydd eraill, mae swyddi fel Uwch Gwnsler, Uwch Adfocad neu Gwnsler yr Arlywydd yn debyg i Gwnsler y Brenin.