Cwpan LV 2009–2010

39fed tymor o gystadleuaeth cwpan rygbi'r undeb cenedlaethol Lloegr yw Cwpan LV 2009–2010, a'r pumed tymor yn y fformat Eingl-Gymreig.

Cwpan LV 2009–2010
Enghraifft o'r canlynoltymor chwaraeon Edit this on Wikidata

Mae strwythr y gystadleuaeth wedi cael ei haddasu y tymor hwn, bydd yn dal i gynnwys pedwar clwb Cynghrair Magners Cymreig a deuddeg clwb Uwchgynghrair Guinness, wedi eu rhannu i byllau o dair clwb Seisnig ac un tîm Cymreig. Ond bydd y fformat newydd yn gwarantu y bydd pob tîm yn chwarae dwy gêm gartref a dwy gêm i ffwrdd, gyda'r timau ym Mhwll 1 a 4 yn chwarae'n erbyn ei gilydd, a Phwll 2 a 3 yn chwarae yn erbyn ei gilydd.[1] Bydd y gystadleuaeth yn cael ei gynnal yn ystod y tymor o emau rhyngwladol yr Hydref a Pencampwriaeth y Chwe Gwlad, gan alluogi i'r clybiau ddatblygu eu chwaraewyr.[2]

Ar 29 Hydref 2009, ychydig dros wythnos cyn dechrau'r tymor, datganwyd ma'r cwmni yswiriant Prydeinig, LV oedd y noddwr newydd ar gyfer tymor 2009–2010 a 2010–2011.[3]

Cyfeiriadau golygu

  1.  Anglo-Welsh Cup fixtures revealed. BBC (6 Gorffennaf 2009).
  2.  Anglo-Welsh Cup set to carry on. BBC (6 Mai 2009).
  3.  LV= sponsors rugby's Anglo-Welsh Tournament. Rugby Football Union (29 Hydref 2009).

Dolenni allanol golygu