Cyberman
Hil ffuglennol o seiborgiaid yw Cybermen, ac maen nhw ymhlith gelynion Doctor Who sydd wedi ymddangos droeon yn y rhaglenni teledu o'r un enw. Rhywogaeth o seiborgiaid di-emosiwn yw'r Cybermen sy'n teithio'r gofod ac yn ceisio dal bodau dynol neu rywogaethau tebyg a'u troi fel hwythau. Gan ymddangos gyntaf yn 1966, cafodd y Cybermen eu creu gan Dr. Kit Pedler (cynghorydd answyddogol i'r sioe) a golygydd y stori Gerry Davis.
Enghraifft o'r canlynol | humanoid extraterrestrial species from Doctor Who, group of fictional characters |
---|---|
Math | cyborg in a work of fiction |
Mae'r Cybermen wedi newid eu dyluniad a'u gwisg lawer gwaith ers iddynt ymddangos gyntaf ar Doctor Who. Mae hefyd nifer o straeon ynghylch eu tarddiad. Yn eu hymddangosiad cyntaf, yn y bennod The Tenth Planet (1966), maent wedi'u creu gan ddynoliaeth o "efaill blaned" y Ddaear, Mondas, sydd wedi uwchraddio eu hunain i seiborgiaid mewn ymgais i ddiogelu eu dyfodol. Ddeugain mlynedd yn ddiweddarach, roedd y bennod "The Age of Steel" (2006) yn rhoi hanes eu tarddiad ar fersiwn o'r Ddaear mewn bydysawd cyfochrog. Mae'r dramau radio, nofelau a llyfrau comic Doctor Who hefyd wedi ymhelaethu ynghylch tarddiad y Cybermen, neu gyflwyno straeon tarddiad amgen.
Ym mhennod "The Doctor Falls" yn 2017, dywedir bod y Cybermen yw'r prif enghraifft o esblygiad cyfochrog y bydysawd, oherwydd ei bod yn anochel y bydd y ddynoliaeth a rhywogaethau tebyg eraill yn ceisio uwchraddio eu hunain gan ddefnyddio technoleg, sydd trwy hynny'n datrys tensiynau ynghylch cysondeb yn hanes y Cybermen.