Cyfansoddair cywasgedig
Cyfuniad o rannau neu synau o eiriau eraill i greu gair newydd, gydag ystyr sy'n gyfuniad o ystyron y geiriau a gyfunwyd, yw cyfansoddair cywasgedig.
Mae cyfansoddair cywasgedig yn wahanol i gywasgiad, fel y mae'r geiriau 'rhai' a 'hyn' yn troi'n 'rhain', a hefyd i gyfansoddair, fel y mae 'melynwy' yn gyfuniad o 'melyn' ac 'wy'. Un o'r cyfansoddeiriau cywasgedig mwyaf adnabyddus yw'r gair Saesneg 'Brexit', sy'n gyfuniad cywasgedig o 'Britain' ac 'exit'.
Yn Saesneg, defnyddir y gair 'portmanteau' i gyfeirio at y math hwn o air - gair sy'n cyfeirio at gist deithio, ond a ddefnyddiwyd gan yr awdur Lewis Carroll, a gan y cymeriad Humpty-Dumpty i ddisgrifio'r math hwn o gyfansoddair yn ei gyfrol Through the Looking Glass (1871).
Enghreifftiau Cymraeg
golyguYmhlith yr enghreifftiau cyfoes Cymraeg o gyfansoddeiriau cywasgedig mae:[1]
- hwylacio – hwyl + ymlacio = chillaxing
- bronion neu brynion – bron + dynion = moobs (man boobs)
- cerbryd – cerbyd + pryd = drive-through bwyd
- sbwrgi – sbwriel + ci = litterbug
- agerstalwm – ager + erstalwm = steampunk