System cyfesurynnau daearyddol
Dull i fynegi lleoliad mannau ar y ddaear ydy system cyfesurynnau map (neu gyfesurynnau daearyddol). Yn aml, defnyddir rhifau neu rhifau a llythrennau i fynegi lleoliad. Ymysg systemau cyffredin mae hydred lledred, a systemau Cartesaidd megis UTM.
Her ychwanegol yw mynegi uchder pwynt (er enghraifft, ar wyneb y ddaear) er mai nid sffêr berffaith mo'r ddaear. Defnyddir dau ddull gyffredin, sef amcangyfrif o ffurf geomeregol y ddaear, neu mesur o rhyw farc safonol megis amcangyfrif o lefel y môr.
Ceir mwy o fanylion technegol, gan gynnwys fformwlau mathemategol, am destun yr erthygl yma yn yr papur A guide to coordinate systems in Great Britain oddi wrth yr Ordnance Survey[1].
Amcangyfrif siap y Ddaear
golyguNid yw'r ddaear yn sffêr berffaith. Yn hytrach, mae'n bêl sydd ychydig yn letach o amgylch y cyhydedd. Yn ogystal, mae arwyneb y ddaear yn gymleth ac yn arw, yn ymestyn o'r dyfnderoedd morwrol i gopaon mynyddoedd, ynghyd â'r platiau tectonig. Felly, er mwyn diffinio system gyfesurynnol ar y ddaear, defnyddir elfen geomertig sy'n symleiddio y sefyllfa, o leia yn fathemategol os nad yn ddaearyddol.
Y symleiddiad mwyaf cyffredin ydy elipsoid ddau echelin (biaxial ellipsoid), sy'n ffigwr tri-dimensiwn o hirgrwn wedi troi o amgylch ei echelin byraf. Gellir defnyddio amryw elipsoidau er mwyn amcangyfrif ffurf y ddaear. Yn gyffredinol, dibynna'r dewis ar ba ranbarth(au) sydd o dan sylw. Er enghraifft, defnyddir elipsoid GRS80 (Geodetic Reference System 1980) gan system leoli GPS am ei fod yn amcangyfrif cyffredinol i ran fwyaf o'r byd. Ar y llaw arall, defnyddir elipsoid Airy 1830 gan yr Ordnance Survey i fapio Prydain am ei fod yn amcangyfrif gwell yn y rhan hono o'r byd.
Lledred a Hydred
golyguLledred pwynt are wyneb y ddaear yw'r ongl rhwng y plân cyhydeddol (equitorial plane) a llinell sy'n rhedeg drwy'r pwynt ac sy'n normal i'r elipsoid sy'n amcangyfrif y ddaear (hy. yn ffurfio ongl 90° iddo ar ei arwyneb). Dynodir lledred gan y lythyren Roegaidd φ neu phi.
Mae'r plân cyhydeddol yn rhannu'r ddaear i'r hemisffer ogleddol a'r hemisffer deheuol. Gellir dynodi lledredau gogleddol gyda'r llythyren G a deheuol â D. Lledred y pegynnau felly yw 90°G a 90°D. Lledred y cyhydedd yw 0°.
Hydred pwynt ar wyneb y ddaear yw'r ongl i'r dwyrain neu'r gorllewin rhwng meridian dewisiedig i feridian arall sy'n pasio drwy'r pwynt. Dynodir lledred gan y lythyren Roegaidd λ neu lambda.
Dewiswyd llinell sy'n pasio'n agos i'r Arsyllfa Frenhinol yn Greenwich i gynrychioli'r prif feridian (prime meridian) sydd â lledred o 0°. Mae pwyntiau i'r dwyrain o'r llinell yma yn yr hemisffer ddwyreiniol - mae eu hydredau rhwng 0°≤ λ ≤180°Dn. Felly hefyd, mae pwyntiau i'r gorllewin yn yr hemisffer orllewinol, â hydredau 0° ≤ λ ≤180°Gn. Hydred y prif feridian yw 0°.
Systemau UTM
golyguGeiriau
System OSGB
golyguGeiriau
Uchder
golyguGeiriau
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ "A guide to coordinate systems in Great Britain" (PDF). Ordnance Survey. Rhagfyr 2010. Cyrchwyd 15 August 2013.