Cyfieithu'r Beibl i'r Gymraeg

Cafodd rhannau o'r Beibl eu cyfieithu i'r Gymraeg yn y 15fed ganrif, ond y cyfieithiad a deyrnasodd am bedair canrif oedd cyfieithiad William Morgan (esgob), Y Beibl cyssegr-lan sef Yr Hen Destament, a'r Newydd a gyhoeddwyd yn 1588[1] ac a ddiwygiwyd gan Dr John Davies, Mallwyd, yn bennaf, yn 1620.

Y Beibl Cyntaf yn Gymraeg, 1588
Dywedir i'r Beibl Cymreig carpiog hwn o 1620 yn Eglwys Llanwnda gael ei achub o ddwylo goresgynwyr Ffrainc ym 1797

Cyhoeddwyd Y Beibl Cymraeg Newydd yn 1988 a'i adolygu yn 2004.

Mae beibl.net, a gyhoeddwyd yn 2015, yn gyfieithiad newydd i Gymraeg mwy llafar ei naws.

Yn 1551 roedd William Salesbury yn gyfrifol am gyhoeddi'r gyfran sylweddol gyntaf o'r Ysgrythurau i ymddangos yn Gymraeg, Kynniver llith a ban,[2] ac ef a oedd yn gyfrifol, yn bennaf, am y cyfieithiad Cymraeg o'r Testament Newydd a'r Salmau a gyhoeddwyd yn 1567, ac a ddiwygiwyd gan William Morgan ar gyfer ei gyfieithiad ef o'r Beibl cyfan yn 1588, Felly, mewn un ystyr byddai'n gywirach galw 'Beibl William Morgan' yn 'Feibl William Morgan a William Salesbury'.

Hanes y Fersiynau golygu

Fersiynau'r 15eg ganrif golygu

Mae sawl ffynhonnell o'r 19eg ganrif yn dyfynnu'r stori bod cyfieithiad o'r Lladin Vulgate yn bodoli ym 1470. Fodd bynnag, mae’r Athro Glanmor Williams wedi wfftio’r syniad bod y Beibl cyfan wedi’i gyfieithu i’r Gymraeg cyn i Feibl William Morgan ymddangos ym 1588.

Cyfeiriadau golygu

  1. Isaac Thomas, William Morgan a'i Feibl (Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 1988)
  2. D. Densil Morgan (15 Ebrill 2018). Theologia Cambrensis: Protestant Religion and Theology in Wales, Volume 1: From Reformation to Revival 1588-1760. Gwasg Prifysgol Cymru. t. 8. ISBN 978-1-78683-239-9. (Saesneg)