Cyflafan München
Ymosodiad terfysgol yn erbyn tîm Olympaidd Israel oedd cyflafan München a gyflawnwyd gan y grŵp milwriaethus Palesteinaidd Medi Du yng Ngemau Olympaidd yr Haf 1972 ym München, Gorllewin yr Almaen. Ar 5 Medi, yn ystod ail wythnos y gemau, dygwyd cyrch ar y Pentref Olympaidd gan wyth o Balesteiniaid, gan ladd dau aelod o dîm Israel a chymryd naw arall yn wystlon. Wedi diwrnod o drafodaethau â'r heddlu, teithiodd y terfysgwyr gyda'r gwystlon i Faes Awyr Fürstenfeldbruck, ac yno lansiwyd cyrch aflwyddiannus i achub gwystlon. Saethwyd pump o'r terfysgwyr yn farw gan yr heddlu, ond cafodd pob un o'r gwystlon, yn ogystal â phlismon o Almaenwr, eu lladd cyn i'r frwydr ddod i ben.[1]
![]() | |
Enghraifft o: | llofruddiaeth dorfol, argyfwng gwystlon, ymosodiad terfysgol ![]() |
---|---|
Dyddiad | Medi 1972 ![]() |
Lladdwyd | 12, 5 ![]() |
Rhan o | Gemau Olympaidd yr Haf 1972, Gwrthdaro Israelaidd-Palesteinaidd ![]() |
Dechreuwyd | 5 Medi 1972 ![]() |
Daeth i ben | 6 Medi 1972 ![]() |
Lleoliad | Olympic Village, Munich, Fürstenfeldbruck Air Base, München ![]() |
![]() | |
Gwladwriaeth | Gorllewin yr Almaen ![]() |
![]() |
Cafodd y tri therfysgwr a oroesodd eu harestio, ond fe'u rhyddhawyd ar 29 Hydref 1972 wedi i gefnogwyr Medi Du awyrgipio Ehediad Lufthansa 615, a mynnu rhyddhau'r tri yn gyfnewid am beidio â ffrwydro'r awyren. Casglwyd y tri a'u cludo i loches yn Libia.
Ymatebodd Israel drwy lansio ymgyrch gudd gan Mossad i ganfod a lladd pob un o'r rhai a gyhuddwyd o gael rhan yn yr ymosodiad. Fodd bynnag, ni lwyddwyd i ladd Abu Daoud, y prif gynllwyniwr.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) Munich massacre. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 10 Ionawr 2025.