Cyflafan Re'im
Ymosodiad ar ŵyl gerddorol a gynhelid ar gyrion Re'im, cibwts yn ne Israel, oedd cyflafan Re'im a gyflawnwyd gan Hamas fel rhan o'i cyrch ar 7 Hydref 2023, a sbardunodd Rhyfel Gaza (2023). Lladdwyd mwy na 260 o bobl a oedd yn ymweld â'r ŵyl,[1] a châi'r ymosodiad ei ystyried gan y nifer fwyaf o wledydd, sefydliadau anllywodraethol, a mudiadau dyngarol fel esiampl o derfysgaeth yn erbyn sifiliaid. Mae rhai hefyd wedi disgrifio'r lladdfa yn enghraifft o lanhau ethnig neu hil-laddiad gwrth-Semitaidd. Hwn yw'r ymosodiad terfysgol gwaethaf yn hanes Israel.[2]
Enghraifft o'r canlynol | ymosodiad terfysgol, cyflafan, herwgipio, trosedd casineb |
---|---|
Dyddiad | 7 Hydref 2023 |
Lladdwyd | 364 |
Rhan o | Cyrch Llif al-Aqsa |
Lleoliad | Supernova Music Festival 2023 complex, Re'im |
Yn cynnwys | killing of Shani Louk, 2024 Nuseirat rescue operation |
Gwladwriaeth | Israel |
Rhanbarth | Cyngor Rhanbarthol Eshkol |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Targed yr ymosodiad oedd "Supernova", gŵyl cerddoriaeth trans i ddathlu gŵyl Iddewig Sukkot, a gynhelid yn yr awyr agored ger Re'im, nid nepell oddi wrth y ffin rhwng Israel a Llain Gaza. Cychwynnodd y cyrch oddeutu 7 o'r gloch yn y bore, pan glywid larwm yn rhybuddio am rocedi a dechreuodd y dathlwyr ffoi. Amgylchynwyd ardal yr ŵyl gan aelodau Hamas mewn gwisg filwrol, wedi cyrraedd o Lain Gaza ar feiciau modur, tryciau, a pharagleiderau, a dechreuasant saethu ar y dorf o filoedd o bobl.[2][3] Cafodd rhai ohonynt eu lladd wrth guddio mewn llochesau cyrch awyr, llwyni, a pherllannau. Achoswyd tagfa draffig yn y maes parcio a'r ffordd wrth i bobl geisio dianc, a saethodd yr ymosodwyr hefyd ar y cerbydau. Cafodd rhai o'r anafedigion eu saethu eto oddi agos i'w dienyddio. Yn ôl tystion, cafodd rhai o'r merched eu treisio cyn eu lladd.[4][5]
Yn ogystal â'r niferoedd o farwolaethau ac anafiadau, cafodd rhai eu herwgipio a'u cymryd yn wystlon i Lain Gaza, ac mae eu tynged yn ansicr. Ar yr un diwrnod, dygodd Hamas gyrchoedd ar gymunedau cyfagos gan ladd cannoedd o sifiliaid a milwyr Israelaidd a dinasyddion o wledydd eraill yn Netiv HaAsara, Be'eri, Kfar Aza, Nir Oz, ac Holit.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) "Israeli music festival: 260 bodies recovered from site where people fled in hail of bullets", BBC (10 Hydref 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 11 Hydref 2023.
- ↑ 2.0 2.1 (Saesneg) "What to know about the deadly Hamas attack on an Israeli music festival", Al Jazeera (10 Hydref 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 11 Hydref 2023.
- ↑ (Saesneg) Rachel Lavin, Yennah Smart et al., "How Israel’s Supernova music festival turned into a massacre", The Times (9 Hydref 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 11 Hydref 2023.
- ↑ (Saesneg) Orlando Radice, "Girls 'raped next to their dead friends' at rave massacre", The Jewish Chronicle (9 Hydref 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 9 Hydref 2023.
- ↑ (Saesneg) "Israeli official confirms women were raped during Hamas attack", Yahoo News (10 Hydref 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 11 Hydref 2023.