Cyflafan Sant Ffolant
Yn 1929 trefnodd Al Capone yr hyn a alwyd yn Gyflafan Sant Ffolant (Saesneg: Saint Valentine's Day massacre) pan arweiniodd dau o'i brif ddynion (sef Jack "Machine Gun" McGurn a'r Cymro Murray the Hump) griw o'i ddynion wedi'u gwisg fel heddweision, a lladd saith o ddynion ei elyn mawr "Bugs" Moran.
Dilëwyd llawer o elynion Capone yn y gyflafan waedlyd a elwir 'Cyflafan Sant Ffolant, a drefnwyd yn rhanol gan Murray the Hump. | |
Enghraifft o'r canlynol | cyflafan |
---|---|
Dyddiad | 14 Chwefror 1929 |
Lladdwyd | 7 |
Lleoliad | Lincoln Park |
Gwladwriaeth | Unol Daleithiau America |
Rhanbarth | Chicago |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Garej yn 2122 North Clark Street, Chicago oedd pencadlys Moran, ac ar y diwrnod hwnnw roedd llawer iawn o'i 'henchmen' yno'n chwearae cardiau pan gynigiodd criw Capone werthu llond lorri o Whiskey iddynt. Pan gyrhaeddodd y lorri, saethodd car yr heddlu (car wedi'i ddwyn gan griw Murray the Hump) i mewn i'r garej - yn llawn o heddlu mewn lifrai gyda gynnau machine-gun.
Credodd dynion Moran mai 'raid' go iawn oedd hon gan yr heddlu, felly fe ffurfion nhw linell daclus i'r 'heddlu' gymryd eu manylion ar mwyn eu harestio. Yn sydyn, anelwyd gynnau'r 'heddlu' at y llinell ddynion a'u saethu. Saethwyd eu hwynebau hefyd, a phan gyhoeddwyd y lluniau yn y papurau trodd unrhyw gydymdeimlad at Capone yn ffieidd-dra.
Bu un o'r rheiny a saethwyd (sef Frank Gusenberg) fyw am ychydig oriau yn yr ysbyty lleol. Pan holwyd ef gan yr heddlu pwy saethodd ef? Atebodd "Does neb wedi fy saethu!" Golygai hyn na fedrwyd dwyn achos yn erbyn yr un gangster.