Cyflogaeth gyffredin

Yn y gorffennol roedd cyflogaeth gyffredin yn amddiffyniad mewn achos cyfraith camwedd. Roedd athrawiaeth cyflogaeth gyffredin yn atal hawlydd rhag dod ag achos cyfreithiol yn erbyn ei gyflogwr lle roedd wedi cael ei anafu o ganlyniad i weithred esgeulus a gyflawnwyd gan gydweithiwr. Roedd yr amddiffyniad arbennig hwn yn ffurf ar imiwnedd rhag cyfreitha dan nawdd y wladwriaeth er mwyn hybu ac amddiffyn gweithgareddau diwydiannol ac economaidd.

Dilëwyd yr amddiffyniad hwn o'r diwedd gan adran 1 Deddf Diwygio'r Gyfraith (Anafiadau Personol) 1948.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Termau Iaith Uwch". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-07-29. Cyrchwyd 2017-03-30.