Cyfres Y Ddrama yn Ewrop
Cyfres o gyfieithiadau Cymraeg o ddramâu llwyfan o Ewrop yw Cyfres Y Ddrama yn Ewrop. Fe gomisiynwyd y cyfieithiadau cychwynol ar gyfer y gyfres ddrama-radio Gymraeg ar Radio'r BBC, Y Ddrama yn Ewrop, a ddarIledwyd dros gyfnod o chwe mis rhwng 15 Tachwedd 1962 a 23 Ebrill 1963. Cyhoeddwyd y dramâu gan Wasg Prifysgol Cymru rhwng 1960 a 1980.
Enghraifft o'r canlynol | dramâu llwyfan |
---|---|
Dyddiad cynharaf | 1962 |
Golygydd | Emyr Humphreys |
Cyhoeddwr | Gwasg Prifysgol Cymru |
Iaith | Cymraeg |
Dyddiad cyhoeddi | 1960-1980 |
Math | dramâu llwyfan |
Cyfres | Y Ddrama yn Ewrop |
Dramâu hir yw'r mwyafrif a gyfieithwyd gan ddramodwyr fel Samuel Beckett, Bertolt Brecht, Max Frisch, Friedrich Dürenmatt a Jean-Paul Sartre. Ymysg y cyfieithwyr i'r Gymraeg mae llenorion megis Saunders Lewis, Pennar Davies, Islwyn Ffowc Elis a Gareth Miles. Aelodau'r Bwrdd Golygyddol oedd Emyr Humphreys, Bedwyr Lewis Jones, Meirion Edwards a Gwyn Thomas.[1]
Cyhoeddiadau
golygu- Yr Eithriad i'r Rheol (1962) cyfieithiad Pennar Davies o Die Ausnahme Und Die Regel (c1930) gan Bertolt Brecht [2]
- Un Noson yn yr Hydref (1962) cyfieithiad Rhiannon a Myrddin Lloyd o Episode on an autumn evening (1959) gan Friedrich Dürenmatt a gynhyrchwyd gan John Griffiths.[3]
- Y gôt fawr (1963) cyfieithiad Islwyn Ffowc Elis o Il Mantello (1960) gan Dino Buzzati.[4]
- Angau ar Ynys y Geifr (1963) cyfieithiad Islwyn Ffowc Elis o Delitto All'isola Delle Capre (1948) gan Ugo Betti.[5]
- Mr Biedermann a'r Llosgwyr Tai (1963) cyfieithiad Dilys M. Price o Herr Biedermann und die Brandstifer (1958) gan Max Frisch.[6]
- Edward ag Agripina (1963) cyfieithiad John Watkins o Édouard et Agrippine (1960) gan Rene de Obaldia.[7]
- Y Ddau Ddienyddiwr (1963) cyfieithiad Gareth Alban Davies o Les Deux Bourreaux (1958) gan Fernando Arrabal.[8]
- Y Ceffylau Bach (1963) cyfieithiad J. Idris Evans o Huis Clos (1944) gan Jean-Paul Sartre.[9]
- Yn Ferthyron i Ddyletswydd (1963) cyfieithiad Gareth Miles o Victimes du Devoir (1953) gan Eugène Ionesco.[10]
Cyfnod mwy diweddar o ran cyhoeddiadau llenyddol
- Caligula (1967) cyfieithiad Emyr Humphreys o Caligula (1938) gan Albert Camus.[11]
- Diwéddgan (1969) cyfieithiad Gwyn Thomas o Fin de Partie (1957) gan Samuel Beckett.
- Wrth aros Godot (1970) cyfieithiad Saunders Lewis o En Attendant Godot (1953) gan Samuel Beckett.[1]
- Gwylan (1970) cyfieithiad W. Gareth Jones o Tshaica (1895) gan Anton Tshechof.
- Y Claf Diglefyd (1972) cyfieithiad Bruce Griffiths o Le Malade Imaginaire (1682) gan Jean Baptiste Molière.
- Oidipos frenin (1972) cyfieithiad Euros Bowen o Oedipus Rex (c.429 CC) gan Sophocles.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 Lewis, Saunders (1970). Wrth aros Godot. Gwasg Prifysgol Cymru.
- ↑ "'Yr Eithriad i'r Rheol', cyfieithiad Pennar Davies o Die Ausnahme Und Die Regel gan Bertolt Brecht, - National Library of Wales Archives and Manuscripts". archives.library.wales. Cyrchwyd 2024-10-07.
- ↑ "'Y Ddrama yn Ewrop', - Archifau a Llawysgrifau Llyfrgell Genedlaethol Cymru". archives.library.wales. Cyrchwyd 2024-10-07.
- ↑ "'Y gôt fawr', cyfieithiad Islwyn Ffowc Elis o Il Mantello gan Dino Buzzati, - National Library of Wales Archives and Manuscripts". archives.library.wales. Cyrchwyd 2024-10-07.
- ↑ "'Angau ar Ynys y Geifr', cyfieithiad Islwyn Ffowc Elis o Delitto All'isola Delle Capre gan Ugo Betti, - National Library of Wales Archives and Manuscripts". archives.library.wales. Cyrchwyd 2024-10-07.
- ↑ "'Mr Biedermann a'r Llosgwyr Tai', cyfieithiad Dilys M. Price o Herr Biedermann und die Brandstifer gan Max Frisch, - National Library of Wales Archives and Manuscripts". archives.library.wales. Cyrchwyd 2024-10-07.
- ↑ "'Edward ag Agripina', cyfieithiad John Watkins o Édouard et Agrippine gan Rene de Obaldia, - National Library of Wales Archives and Manuscripts". archives.library.wales. Cyrchwyd 2024-10-07.
- ↑ "'Y Ddau Ddienyddiwr', cyfieithiad Gareth Alban Davies o Les Deux Bourreaux gan Fernando Arrabal, - National Library of Wales Archives and Manuscripts". archives.library.wales. Cyrchwyd 2024-10-07.
- ↑ "'Y Ceffylau Bach', cyfieithiad J. Idris Evans o Huis Clos gan Jean-Paul Sartre, - National Library of Wales Archives and Manuscripts". archives.library.wales. Cyrchwyd 2024-10-07.
- ↑ "'Yn Ferthyron i Ddyletswydd', cyfieithiad Gareth Miles o Victimes du Devoir gan Eugene Ionesco, - National Library of Wales Archives and Manuscripts". archives.library.wales. Cyrchwyd 2024-10-07.
- ↑ "Gwylio a Gwrando". Y Cymro. 8 Chwefror 1967.