Cyfrifiannell
Dyfais electronig, cludadwy i gyfrifo (gwneud symiau) ydy'r cyfrifiannell. Yn wahanol i'r cyfrifiadur, nifer cyfyngedig iawn o alluoedd datrys problemau sydd ganddo ac nid yw'r defnyddiwr, chwaith, yn rhaglenu arno. Fodd bynnag gellir cyfrifo symiau rhifyddeg syml a mathemateg chymhleth.
- Erthygl am y cyfrifiannell electronig yw hon; am y ddyfais mecanyddol, gweler cyfrifiannell mecanyddol.
Fe'i ceir mewn gwahanol ffurf a maint ac erbyn 2007 roeddent i'w cael ar y ffôn llaw , tabled cyfrifiadurol a dyfeisiadau ymylol eraill.
Hanes
golyguRhwng canol y 17g a'r 1960au, defnyddiwyd cyfrifianellau mecanyddol i gyfrifo, gyda Wilhelm Schickard yn dylunio dyfais o'r fath ar bapur a Blaise Pascal, ugain mlynedd yn ddiweddarach yn dyfeisio dyfais masnachol.[1]
Ymddangosodd y ddyfais electronig cyflwr solet cyntaf yn nechrau'r 1960au ac erbyn y 1970au roedden nhw'n ddigon bach i ffitio poced person, gyda'r Intel 4004 yn un o'r cyntaf, gyda'i ficro-brosesydd.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Michael Williams, History of Computing Technology, IEEE Computer Society, t. 122 (1997)